Allor

Oddi ar Wicipedia
Allor
Mathgwrthrych crefyddol, bwrdd, holy place, adeiladwaith pensaernïol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Allor

Adeiladwaith crefyddol at ddiben gwneud aberth neu gynnal gwasanaeth yw allor.[1]

Crefyddau'r Henfyd[golygu | golygu cod]

Mae'n debyg i allorau darddu o fannau naturiol, megis coed, ffynhonnau, a chreigiau, a gawsant eu hystyried yn sanctaidd neu'n gartref i ysbrydion a duwiau. Byddai'r addolwr yn gwneud offrwm i gymodi neu fodloni'r bod anfaterol, ac yn gadael bwyd, gwneuthurbeth, neu anifail ar allor gyfagos. Yn y crefyddau cyntefig, defnyddid maen neu bentwr o gerrig at y diben hwn. Pan godwyd cysegrfannau ac addoldai, adeiladwyd allorau maen ac arnynt cafodd anifeiliaid eu haberthu. Yn yr Hen Aifft, defnyddid allorau meini mawr yn nhemlau'r Deyrnas Newydd. Mewn mannau eraill yn y Dwyrain Agos, adeiladwyd allorau bychain ar eu sefyll i losgi'r arogldarth. Yn oesoedd hynafol yr Iddewon, defnyddid allor faen betryalog gyda basn wedi ei gafnu yn ei hwyneb. Câi'r pedair cornel eu llunio ar ffurf cyrn, a'r rhain oedd darnau sancteiddiaf yr allor. Adeiladwyd allorau ger mynedfeydd a mewn iardiau tai'r Groegiaid hynafol, yn ogystal ag yn y farchnad ac mewn adeiladau cyhoeddus, a chellïoedd sanctaidd yng nghefn gwlad.[2]

Cristnogaeth[golygu | golygu cod]

Fel arfer, yr allor yw'r canolbwynt mewn eglwys Gristnogol.

Gyda golwg ar ddefnyddiau'r allor, nis gall fod dim dadl nad o goed y gwneid yr allorau Cristnogol cyntaf, ac nid oeddent mewn gwirionedd ddim amgen na'r byrddau cyffredin, arferedig mewn taid annedd. Ond yn rhwysg amser, galluogwyd y Cristnogion i adeiladu a gwaddoli eglwysi, ac i gysegru i ddibenion crefyddol lestri a dodrefn y cysegr. Er hynny, parhaodd yr allorau am dalm o amser i gael, yn gyffredin, eu gwneuthur o goed, megis cynt. Canys yr ydym yn cael i'r Donatiaid, yn eu cythrwfl cysegr-ysbeilgar yn y 4g, losgi rhai o'r allorau hyn, ac yr ydym yn darllen am ddynion a gawsant eu curo â darnau o rai eraill. Ac y mae hyn yn deilwng o sylw mwy neilltuol, am mai allorau coed a arfer yn eglwysi Gwledydd Prydain, tra yn Eglwys Rhufain ystyrir maen fel yn hanfodol i gyfansoddi allor. Mor hanfodol, fel na chysegrid un allor â'r olew sanctaidd, oni byddai hi wedi ei gwneuthur o faen, a thybiai rhai y byddai i allor gludadwy golli ei chysegredd, os symudid y maen o'i le. Pa fodd bynnag, y mae yn ddilys ddigon fod allorau meini mewn arferiad, mewn rhai mannau, gryn dalm cyn yr amser yr oedd Optatus (esgob Milevi, yn Numidia, yn y 4g) yn ysgrifennu yn erbyn y Donatiaid. Defnyddiwyd hwynt ar y cyntaf, nid yn gymaint oddi ar ddewisiad ag oddi ar angenrheidrwydd, yn tarddu oddi wrth agwedd a sefyllfa pethau yn yr amseroedd hynny.

Yn oes foreol yr Eglwys Gristnogol, gorfyddai ar y Cristnogion ymneilltuo i'r claddogofau, i gadw addoliad, ac i arfer defodau eu crefydd. Yn y rhai hynny y claddesid llawer o'r merthyron, ac yr oedd eu beddrodau yn ymddangos iddynt hwy, nid yn unig fel y lleoedd mwyaf cyfleus, ond hefyd fel y lleoedd mwyaf cysegredig, i gysegru'r cymun sanctaidd arnynt. Nid hawdd oedd ysgaru teimladau'r prif Gristnogion oddi wrth y lleoedd difrifol a'r allorau hyn, ac wedi dyfod amseroedd gwell, pryd y gallent ddewis lle a dull eu gwasanaeth, adeiladent allorau cyn debyced byth ag y gallent i'r allorau hyn yr ymgryment ger eu bron yn nydd yr erledigaeth. Dewisent, gan hynny, yn fynych, y lle y derbyniasai rhyw ferthyr goron merthyrdod, i adeiladu eu heglwys arno, a gwasanaethai maen ei fedd yn lle allor. Ym mhen amser, codid, hwyrach, adeilad fwy gorwych yn yr un lle, a gadewid i feddrod y merthyr aros yn y guddgell neu ddirgelfa, a gosodid yr allor yn union uwch ei ben. Ond nid hir y bu'r eglwysi cyn myned yn amlach na'r merthyron, neu, o leiaf, yn amlach na'r mannau lle y dioddefasai'r merthyron hyn. Ond eto codid allor faen megis cynt, hyd onid aeth yn arferiad, ym mhen gronyn, i symud creiriau'r saint o'r lle y buasent farw ynddo, a'u claddu o dan allorau'r eglwysi newydd.

Fel hyn, ddefnyddiwyd allorau meini, ar y cyntaf, oherwydd angenion yr amseroedd. Cynyddodd yr arferiad, hyd onid aeth yn lled gyffredinol, ac o'r diwedd, gorchmynwyd y perth gan Eglwys Rhufain. Parhaodd pethau felly hyd y Diwygiad Protestannaidd yn yr 16g, pryd y parodd y Diwygwyr symud yr allorau meini, a gosod rhai o goed yn eu lle, gan adferu'r eglwys yn hyn, yn gystal ag mewn pethau eraill, yn nes at burdeb a symledd yr efengyl ym moreuddydd Cristnogaeth.

Mae allor, bob amser, yn rhagdybied aberth, a llefaru'n briodol, gan gynny, nid oes allor gan Anghydoligion. Pan ddefnyddier y gair am fwrdd y cymun, rhaid ei ddeall mewn ystyr gyffelybiaethol neu allegol: canys y mae Eglwys Loegr yn dysgu yn bendant nad aberth mo sacrament Swper yr Arglwydd. Ond dywedir gan rai y gelwir hi yn fwrdd gyda golwg ar y cymun a weinyddir arni, ac yn allor ar gyfrif yr aberth o fawl a diolch a offrymir yno i Dduw, ac am mai arni hi hefyd yr offrymir rhoddion ac elusennau. Arfera'r Pabyddion y gair yn ei iawn ystyr; canys, yn ôl athrawiaeth Eglwys Rhufain, y mae'r offeren yn wir a phriodol aberth.

Yr Eglwys Gatholig Rufeinig[golygu | golygu cod]

Mewn eglwysi Pabyddol, mae, yn fynych, amryw allorau, yn sefyll ym mhen dwyreiniol cynifer o gapelau, wedi eu cyflwyno i gynifer o seintiau. Yn amser y Diwygiad, symudwyd y rhai hyn olll, ond yr allor fawr. Gwneir cynigion gan rai ers y 19g i adferu'r allor faen, ac eraill o arferion y canoloesoedd. Mae'n amlwg fod yr allorau meini yn hen, ond y mae mor amlwg a hynny, fod yr allorau coed yn henach. Dywed y Pabyddion fod yr allor faen yn gysgod neu arddangosiad o Grist, sylfaen yr adeilad ysbrydol, sef yr eglwys. Mae i bob allor o'r fath dair o risiau i esgyn ati, y rhai a orchuddir â llorlen. Addurnir hi â blodu naturiol a chelfyddydol, yn ôl y tymor o'r flwyddyn, ac nid arbedir traul i'w harddwychu ag aur, arian, a meini gwerthfawr. Gosodir yr hyn a elwir pabell y cymun sanctaidd ar yr allor, ac ar bob ochr iddi, saif canhwyllau o gwyr gwyn. Pob amser y cedwir gwasanaeth er cof am y meirw, ac yn ystod tri diwrnod olaf Wythnos y Dioddefaint, canhwyllau o gwyr melyn a ddefnyddir. Gosodir croglun, neu lun Crist ar y groes, i orffwys ar yr allor.

Mae hefyd, yn gyffredin, ar bob allor, adysgrifen deg, mewn llythyren fras, o'r Te Igitur, sef gweddi a gyfeirir at Dduw'r Tad yn unig; gelwir hi hefyd y "Weddi Ddirgel". Perthyna i'r allor hefyd gloch fechan, yr hon a genir naw gwaith: teirgwaith, pan y syrthio'r offeiriad ar ei liniau; teirgwaith, pan ddyrchafo efe aberth yr offeren; a theirgwaith, pan y gesyd efe ef i lawr. Mae ganddynt allor gludadwy, neu garreg gysegredig, â thwll neu geudod bychan yng nghanol ei wyneb, lle y gosodir creiriau'r saint a'r merthyron, a selir hi gan yr esgob. Os digwydd i'r sêl dorri, cyll yr allor ei hansawdd gysegredig. Mae, ymhellach, yn perthyn i'r allor garegl a chwpan, i ddal yr elfennau; y blwcg i ddal yr arlladen, neu aberth yr offeren; llen wen, ar ddull pabell, i orchuddio'r blwch; thuser yr arogldarth; llestr i ddal y dŵr bendigaid; ac amryw bethau eraill, megis corffleni, pallau, a'r cyffelyb. Gwneir holl lestri a dodrefn yr allor Babyddol o'r defnyddiau mwyaf drudfawr, a gofelir eu bod oll yn ddillyn a harddwych yn eu gwneuthuriad.

Yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol[golygu | golygu cod]

Defnyddir bord bren gan yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol.[2]

Eglwysi Protestannaidd[golygu | golygu cod]

Yn eglwysi Anglicanaidd Gwledydd Prydain ac Iwerddon – Eglwys Loegr, yr Eglwys yng Nghymru, Eglwys Esgobol yr Alban, ac Eglwys Iwerddon – nid oes ond ychydig iawn o'r hen allorau meini yn aros hyd heddiw. Rhestrir hwynt weithiau ymhlith cywreinion yr hen oesoedd. Mae rhai o'r allorau ystlysol yn aros yng Nghapel Roslin, yn yr Alban, wedi eu gwneuthur o faen. Dywedir fod tuag wyth arall o'r un defnydd i'w cael mewn gwahanol fannau yng Nghymru a Lloegr. Y rhai hyn oll, nid prif allorau, ond allorau ystlysol ydynt, ond yng Nghapel St Mair Fadlen, yn Ripon, y mae'r allor faen gyntefig yn aros, a hi yw'r unig allor yn yr eglwys honno. Nodid yr hen allorau meini â phum croes, mewn cyfeiriad at bum loes neu bum archoll yr Iesu.

Yn yr 82ain o'r "Gosodedigaethau a Chanonau Eglwysig", a osodwyd allan yn y flwyddyn 1603, penodir a threfnir yn y dull canlynol, gyda golwg ar yr allor, ei gorchudd, a'i haddurn: "Gan nad ŷm yn ammheu nad oes ym mhob Eglwys yn nheyrnas Loegr, fwrdd cymhwys a gweddus wedi ei ddarparu a'i osod i wasanaethu'r cymun bendigaid; yr ŷm yn ordeinio cadw a chyweirio, o amser bwygilydd, yr unrhyw fwrdd mewn trefn weddus a chyflëus, a'i hulio bryd gwasanaeth Duw â charped sidan, neu ddefnydd arall gweddus a threfnus, a farno glwysynad y lle yn addas, o bydd dim dadl yng nghylch hyny, ac â lliain teg ar bryd y weinidogaeth, fel y gweddai i'r bwrdd hwnw; ac felly sefyll, oddi eithr pan weinydder y dywededig gymun bendigaid. Y pryd hyny cyflëir ef mor gymhwys o fewn yr eglwys neu'r ganghell, ag y gallo'r cymunwyr glywed y gweinidog yn well yn ei weddi a'i weinidogaeth, a'r cymunwyr hefyd yn gymhwysach ac yn amlach gymuno gyda'r dywededig weinidog; a bod y deg gorchymyn wedi eu gosod ar y dwyreinbarth i bob eglwys a chapel, lle bo hawsaf i'r bobl eu gweled a'u darllen, ac adnodau dewisol ereill yn ysgrifenedig ar furiau yr eglwysi a'r capelau dywededig, mewn lleoed cyflëus: ac felly hefyd bod eisteddfa gyfaddas wedi ei gwneuthur i'r gweinidog i ddarllen y gwasanaeth ynddi. Y rhai hyn oll i'w gwneuthur ar gost y plwyf."

Neo-baganiaeth[golygu | golygu cod]

Wica[golygu | golygu cod]

Mae ymarferwyr y grefydd Wica yn defnyddio allor sydd fel arfer yn ddarn o ddodrefn, megis bwrdd neu gist, ac arno sawl eitem symbolaidd ac ymarferol a ddefnyddir er mwyn addoli'r Duw a'r Dduwies, swyno, siantio a gweddïo. Fel arfer mae lliain, a ddefnyddir er mwyn diogelu'r arwynebedd rhag cwyr gannwyll a llwch arogldarthau sy'n llosgi ar yr allor. Weithiau mae gan y lliain hwn lun o bentagl neu symbolau ysbrydol eraill.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  allor. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Hydref 2018.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Altar. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Hydref 2018.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.