Bwrdd

Oddi ar Wicipedia
Bwrdd cegin pren gyda chadeiriau.

Darn o ddodrefn yw bwrdd (Gogledd) neu bord (De), (sy'n enw gwrywaidd) gydag wyneb agored, llyfn ac sydd wedi'i gynnal gan goesau: pedair neu chwech, fel arfer. Fe'i defnyddir fel arfer i gynnal gwrthrychau bychain fel bwyd, i weithio, i arddangos blodau, i gynnal pethau neu i nifer fawr o ddefnyddiau eraill. Y pwrpas mwyaf cyffredin yw i fwyta, gyda phersonnau o'i cwmpas yn eistedd ar gadeiriau addas i'w uchder. Ceir mathau eraill fel y bwrdd coffi, sy'n is, ac wedi'i leoli yn y lolfa.

Roedd gan y rhan fwyaf o fyrddau cynnar ddroriau o dan y bwrdd. Mae rhain yn llai cyffredin erbyn hyn. Gelwir bwrdd sydd wedi ei gynllunio'n arbennig ar gyfer ysgrifennu neu waith swyddfa yn ddesg, a gall rhain gynnwys set o ddroriau sy'n cynnal y bwrdd yn hytrach na choesau. Mae gan rhai byrddau adrannau ychwanegol er mwyn ymestyn y bwrdd pan fydd angen; gelwir yr adrannau hyn yn ddalenni. Gellir eu gwneud o nifer o ddeunyddiau megis pren, cardbord, plastig, metel neu wydr.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am ddodrefn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am bwrdd
yn Wiciadur.