Y Gwyddoniadur Cymreig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cyfrol IX o'r Gwyddoniadur Cymreig (1878)

Y Gwyddoniadur Cymreig (neu'r Encyclopaedia Cambrensis) oedd y gwaith gwyddoniadurol mwyaf uchelgeisiol erioed yn yr iaith Gymraeg. Cafodd ei gyhoeddi mewn deg cyfrol rhwng 1854 a 1879 gan Thomas Gee ar ei wasg enwog yn nhref Dinbych (Gwasg Gee). Y golygydd cyffredinol oedd John Parry (1812-1874), brawd-yng-nghyfraith Gee a darlithydd yng Ngholeg Y Bala. Erys y cyhoeddiad papur mwyaf yn y Gymraeg hyd heddiw.

Costiodd y fenter tua £20,000 i Thomas Gee. Roedd hynny'n swm aruthrol yn y cyfnod hwnnw, yn cyfateb i tua £1,000,000 heddiw.[1]

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n waith anferth sy'n cynnwys bron i 9,000 o dudalennau mewn colofnau dwbl. Er bod nifer yr erthyglau sy'n ymwneud â'r Beibl a diwinyddiaeth yn sylweddol uwch nag a ddisgwylid mewn cyhoeddiad o'r fath heddiw, mae'n cynnwys yn ogystal nifer fawr o erthyglau bywgraffyddol, eitemau ar hanes Cymru a llenyddiaeth Gymraeg, y gwledydd Celtaidd, daearyddiaeth a gwyddoniaeth. Mae nifer o'r erthyglau bywgraffyddol yn dal i fod yn ddefnyddiol heddiw ac mae'r wybodaeth a geir am gyflwr Cymru yn y 19g yn werthfawr hefyd.

Ymhlith y cyfrannwyr niferus oedd Owen Morgan Edwards a Syr John Morris-Jones; roedd erthygl JM-J ar yr iaith Gymraeg yn sail i'w gyfrol ddylanwadol A Welsh Grammar, Historical and Comparative (1913).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Barn

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]