Allor (Wica)

Oddi ar Wicipedia
Allor

Mae ymarferwyr y grefydd Wica yn defnyddio allor sydd fel arfer yn ddarn o ddodrefn, megis bwrdd neu gist, ac arno sawl eitem symbolaidd ac ymarferol a ddefnyddir er mwyn addoli'r Duw a'r Dduwies, swyno, siantio a gweddïo.[1] Fel arfer mae lliain, a ddefnyddir er mwyn diogelu'r arwynebedd rhag cwyr gannwyll a llwch arogldarthau sy'n llosgi ar yr allor. Weithiau mae gan y lliain hwn lun o bentagl neu symbolau ysbrydol eraill.[2]

Eitemau'r Allor[golygu | golygu cod]

Allor Calan Mai (2009), gyda chanhwyllau, cerfluniau'r Dduwies a Duw, caregl, pair, cyllell athamé, ac arogldarth mewn daliwr.

O fewn Wica, ystyrir allor i fod yn lle personol lle mae ymarferwyr yn gosod eu hoffer defodol. Mar rhai ymarferwyr yn cadw gwahanol eitemau crefyddol ar yr allor, neu yn defnyddio'r eitemau wrth berfformio defod neu swyn. Mae'r ochr chwith yn perthyn i'r Dduwies lle gosodir symbolau benywaidd neu ionig, megis powlenni a chareglau, yn ogystal â delweddau'r Dduwies. Mae'r ochr dde yn perthyn i'r Duw lle gosodir symbolau gwrywaidd neu ffalig, megis yr athamé a'r hudlath, yn ogystal â delweddau'r Duw. Mae'r canol yn perthyn i'r ysbryd lle perfformir y "gwaith".[3]

Yr eitemau cyffredin sydd ar allor Wicaidd yn cynnwys:[4]

Yn ogystal ag eitemau go iawn, cynhwysir y bedair elfen o ddaear (gyda daear neu halen), aer (gydag arogldarth neu bluen), tân (gyda channwyll goch neu grisial coch), a dŵr (gyda dŵr).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Magical Tools - Altar Archifwyd 2009-08-10 yn y Peiriant Wayback. Cyrchwyd 14 Ionawr 2010
  2. Wicca Altar Basics Cyrchwyd 14 Ionawr 2010
  3. How To Set Up Your Wiccan Altar | eHow.com Archifwyd 2009-07-04 yn y Peiriant Wayback. Cyrchwyd 14 Ionawr 2010
  4. Basic Altar Setup - Setting up your Magical Altar Archifwyd 2009-08-01 yn y Peiriant Wayback. Cyrchwyd 14 Ionawr 2010