Aberth
Math | defod, aberth |
---|---|
Yn cynnwys | Qurbani |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Arfer neu ddefod grefyddol yw aberth sydd yn cynnig bywyd anifail neu fod dynol i dduw neu fod goruwchnaturiol arall er sefydlu, cynnal, neu adfer perthynas rhwng yr addolwr a'r drefn sanctaidd. Prif ddiben aberth yw gwneud iawn ac heddychu'r bod goruwchnaturiol. Defnyddir ebyrth i ddibenion eraill, sef i gadarnhau cyfamod, i ddatgan diolchgarwch, ac fel erfyniad am drugaredd.
Ymarferai ebyrth gan grefyddau ar draws y byd ac ers cyfnod boreuaf y ddynolryw. Yn gyffredin caiff aberth anifail ei wneud trwy dywallt ei waed, a'i losgi ar allor.
Gelwir defod debyg sydd yn cynnig gwrthrychau megis bwyd neu wneuthurbethau, fel rheol heb eu dinistrio, yn offrwm.
Crefydd Groeg yr henfyd
[golygu | golygu cod]Mae hanesion boreuaf Groeg yn llawn o enghreifftiau o ebyrth gwaedlyd, ac ymhellach hefyd, o aberthau dynol. Mae'r chwedl am Iphigenia yn cael ei haberthu gan ei thad, i ddyhuddo digofiant Artemis, yn ddangosiad amlwg fod pwrcasu bywyd ag aberth yn unol â syniadau'r Groegiaid. Nid yw eu hanes yn amddifad o esiamplau credadwy o ebyrth dynol. Aberthodd Themistocles, o flaen Brwydr Salamis, rai o'r Persiaid, i Dionysus.
Aberthau o anifeiliaid oedd y rhai lluosocaf yn oes y Groegiaid. Yr arferiad cyffredin yn yr oesoedd cynnar oedd llosgi'r holl anifail, ac oddi wrth y gair hwn y cymerir y gair holocost (llosgaberth), am aberthau a lwyr losgid ar yr allor. Ond yr arferiad mewn oesoedd diweddarach, fel y gwelir yn arwrgerddi Homeros, oedd llosgi'r coesau mewn braster a rhyw rannau o'r perfeddion, a gwledda ar y gweddill. Tybient fod y duwiau yn ymhyfrydu yn y mwg a esynai oddi ar yr allor, a bod effeithiolrwydd yr aberth yn ymddibynnu ar nifer yr anifeiliaid a offrymid. Felly, arferiad cyffredin oedd aberthu cant o ychain ar unwaith, a gelwid aberth felly yn hecatomb. Ni chyfyngwyd yr enw at y nifer, ond rhoddwyd ef ar bob aberth o bwysigrwydd mwy na chyffredin.
Ym mytholeg Roeg, darlunir Iau fel wedi ei ddigio am fod Promethëws wedi cadw'r gorau o'r anifail yn ymborth, yn lle llosgi'r cyfan ar yr allor.