Promethëws (mytholeg)
| Enghraifft o: | Titan |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/05sg8 |

- Gweler hefyd Promethëws (gwahaniaethu).
Ym mytholeg Roeg, un o'r Titaniaid oedd Promethëws (Hen Roeg: Προμηθεύς). Roedd yn enwog am ei gyfrwysdra, ac yn arbennig am ddwyn tân oddi wrth Zews a'i roi i ddynoliaeth.
Ymddengys y chwedl gyntaf yng ngwaith Hesiod, tua diwedd yr 8fed ganrif CC. Roedd Promethëws yn fab i Iapetus, un o'r titaniaid, a Themis neu Clymene, un o'r Oceanides. Roedd felly yn frawd i Atlas, Menoetius ac Epimethëws.
Roedd Zews wedi gwrthod tân i'r ddynoliaeth oherwydd ei dwyllo gan un o ystrywiau blaenorol Promethëws. Aeth Promethëws i Olympia, cymerodd dân a'i drosglwyddo i ddynoliaeth. Fel cosb, cadwynwyd ef werth graig, lle roedd eryr yn bwyta ei iau bob dydd; bydda'r iau yn ail-dyfu yn ystod y nos. Gyrrodd Zews y ferch gyntaf, Pandora, ar frawd Promethëws, Epimethëws, gyda blwch oedd yn cynnwys pob afiechyd a phoen i boeni dynoliaeth.
Y ddrama enwocaf ar y pwnc yw trasiedi Promethëws yn Rhwym, a briodolir i Aeschulos; yn ôl pob tebyg y rhan gyntaf o drioleg Prometheia, er nad yw'r rhannau eraill wedi eu cadw.
Enwir y lloeren Promethëws ar ôl y cymeriad mytholegol.