Aberth dynol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Darluniad o aberth dynol yr Asteciaid yn Llawysgrif Magliabechiano (16g).

Lladd bod dynol er offrymu ei fywyd i dduw neu fod goruwchnaturiol tebyg yw aberth dynol. Fel arfer nodir yr arfer gan bwysigrwydd tywallt gwaed a'i gysylltiad â'r enaid neu rym bywyd, ond ceir hefyd enghreifftiau o aberth dynol trwy dagu neu foddi.[1]

Y Celtiaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl yr awduron clasurol, yn eu plith Diodorus Siculus, Strabo, a Tacitus, ymarferwyd aberth dynol gan Geltiaid y cyfandir a Cheltiaid Ynysoedd Prydain ac Iwerddon. Y disgrifiad enwocaf ydy ardystiad Iŵl Cesar o ddyn gwellt enfawr yn llawn pobl ac anifeiliaid a gafodd ei losgi. Mae Tacitus yn lladd ar ddefodau'r Celtiaid ac yn haeru bod y derwyddon yn diberfeddu caethion ar yr allor er ymysgarddewiniaeth, sef darogan neu gyfathrebu â'r duwiau drwy edrych ar organau mewnol.[2]

Ysgrifennai awduron diweddarach taw athrod oedd cyhuddiadau'r Rhufeiniaid, a bod aberth dynol yn ddefod brin gan y Celtiaid. Mae'n bosib yr oedd yn ffurf ar y gosb eithaf, a lleddid troseddwyr a charcharorion yn unig. Cafwyd hyd i gyrff mewn corsydd mewn amodau sy'n awgrymu iddynt gael eu haberthu, ac mae gan y rhain foliau llawn bwyd a gwallt ac ewinedd o gyflwr da. Mae'n debyg felly i garcharorion o statws uchel gael eu trin yn dda cyn eu haberthu. Mae ambell chwedl Geltaidd, er enghraifft Togail Bruidne Dá Derga yng Nghylch Wlster, yn sôn am aberth dynol.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Human sacrifice. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Awst 2017.
  2. 2.0 2.1 Patricia Monaghan, The Encyclopedia of Celtic Mythology and Folklore (Efrog Newydd: Facts On File, 2004), tt. 251–2.