Amlosgiad

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Amlosgiad yw hylosgiad, anweddiad, ac ocsidiad corff marw nes ei fod yn gyfansoddion cemegol sylfaenol, fel nwyon, llwch a darnau mwynol sy'n ymddangos fel asgwrn sych.[1] Gall amlosgi gael ei gynnal fel angladd neu ddefod yn dilyn angladd fel dewis amgen i gladdedigaeth y corff mewn arch. Gall gweddillion amlogiad (sydd hefyd yn cael eu galw'n "llwch"),[2][3] gael eu claddu mewn safleoedd coffa neu fynwentydd, neu gallant gael eu cadw gan berthnasau neu wasgaru mewn gwahanol ffyrdd.

Mewn nifer o wledydd, mae amlosgiad fel arfer yn digwydd mewn amlosgfa. Ar Is-gyfandir India, yn arbennig yn India a Nepal, mae dulliau eraill, fel amlosgiad awyr agored, yn cael ei ffafrio.

Mae amlosgiad yn dyddio yn ôl i o leiaf 42,000 o flynyddoedd yn y cofnod archeolegol, gyda'r Fenyw Mungo, gweddillion corff a oedd wedi'i amlosgi yn rhannol a'i ddarganfod yn Llyn Mungo, Awstralia.[4]

Cyfrannodd at gyfreithloni amlosgiad a chafodd ei amlosgi ei hun yn dilyn ei farwolaeth yn 1893.

Ceir enghreifftiau o amlosgi mewn nifer o ddiwylliannau o amgylch y byd yn y cyfnod cynhanesyddol ac yn yr hen fyd. Rhoddodd Cristnogaeth ddiwedd ar amlosgi mewn nifer o fannau, trwy ddylanwad Iddewiaeth a'r gred yn atgyfodiad y corff ac yn dilyn esiampl claddedigaeth Iesu. Mae anthropolegwyr wedi gallu olrhain lledaeniad Cristnogaeth yn Ewrop trwy ymddangosiad mynwentydd. Erbyn y 5g, roedd yr arfer o losgi cyrff y meirw bron â diflannu o Ewrop.

Y cyntaf i hyrwyddo amlosgiad yn y cyfnod modern oedd y meddyg Syr Thomas Browne yn 1658. Honoretta Brooks Pratt oedd y person cyntaf ar gofnod i gael ei hamlosgi yn Ewrop yn y cyfnod modern. Bu farw 26 Medi 1769 a'i hamlosgi (yn anghyfreithlon) yn y gladdfa ar Sgwâr Hanover yn Llundain.[5]

Ar 13 Ionawr 1874, daeth pobl a oedd yn gefnogol i amlosgiad ynghyd yng nghartref Sir Henry Thompson yn Llunain i ffurfio'r Cremation Society of Great Britain. Yn eu plith, roedd Anthony Trollope, John Everett Millais, George du Maurier, Thomas Spencer Wells, John Tenniel a Shirley Brooks,[6][7]

Cafodd amlosgi ei gyfreithloni yn sgil gweithgareddau'r Cymro William Price. Penderfynodd amlosgi corff ei blentyn cyntaf pan y bu farw yn 1884.[8] Cafodd ei arestio gan yr heddlu am waredu corff yn anghyfreithlon. Llwyddodd Price i ennill y ddadl yn ei achos llys trwy nodi nad oedd y gyfraith yn datgan bod amlosgi yn gyfreithlon nac yn anghyfreithlon. Gosododd yr achos gynsail a arweiniodd, mewn cyfuniad â gweithgareddau'r Cremation Society of Great Britain, at Ddeddf Amlosgi 1902.[9] Roedd y Ddeddf yn gosod gofynion gweithdrefnol cyn y gellid amlosgi, a'i gyfyngu i fannau awdurdodedig.[10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Matthews Cremation Division (2006). Cremation Equipment Operator Training Program. pp. 1.
  2. "Cremains" is a portmanteau of "cremated" and "remains". See Carlson, p. 80
  3. Sublette, Kathleen; Flagg, Martin (1992). Final Celebrations: A Guide for Personal and Family Funeral Planning. Pathfinder Publishing. p. 52. ISBN 0-934793-43-3.
  4. Bowler, J.M. 1971. Pleistocene salinities and climatic change: Evidence from lakes and lunettes in southeastern Australia. In: Mulvaney, D.J. and Golson, J. (eds), Aboriginal Man and Environment in Australia. Canberra: Australian National University Press, pp. 47–65.
  5. Neil R Storey (2013). The Little Book of Death. The History Press. ISBN 9780752492483.
  6. "Cremation in England". ICCFA.
  7. "Introduction". Internet. The Cremation Society of Great Britain. Cyrchwyd 2 December 2010.
  8. Harris, Tim (16 September 2002). "Druid doc with a bee in his bonnet". theage.com.au (Melbourne). http://www.theage.com.au/articles/2002/09/15/1032054710047.html?oneclick=true.
  9. "Doctor William Price". Rhondda Cynon Taf Library Service. Cyrchwyd 1 June 2012.
  10. "Cremation Act, 1902". Cyrchwyd 3 February 2007.