Ewthanasia

Oddi ar Wicipedia

Ewthanasia (o'r Groeg: ευθανασία -'ευ "da" neu "esmwyth", θανατος "marwolaeth") yw'r broses o derfynu bywyd person neu anifail sy'n dioddef er mwyn osgoi mwy o boen.

Mae cyfreithlondeb ewthanasia yn amrywio o wlad i wlad. Mae'r Pwyllgor Dethol ar Foeseg Meddygol yn Nhŷ'r Arglwyddi yn diffinio ewthanasia fel "ymyriad bwriadol a wneir gyda'r amcan penodol o ddiweddu bywyd a lliniaru dioddefaint anhydrin".[1] Yn yr Iseldiroedd a Flanders, cyfeiria ewthanasia at "derfynu bywyd gan ddoctor ar gais y claf".[2]

Mathau o ewthanasia[golygu | golygu cod]

Ewthanasia gwirfoddol[golygu | golygu cod]

Ewthanasia a weithredir ar gais yr un sydd yn cael ei ladd yw ewthanasia gwirfoddol. Fel rheol, trafodir yng nghyd-destun cleifion sy'n dioddef afiechydon anwelladwy neu gyflwr eithriadol o boenus. Nod ewthanasia yw rhoi terfyn yn gyflym a di-boen i ddioddefaint y claf. Yn ogystal, fe all roi terfyn ar ddioddefaint a thrallod anwyliaid y claf wrth ei weld yn marw. Mae'r rhai sydd yn cefnogi ewthanasia o'r fath yn dadlau bod hawl gan bawb i benderfynu sut y dylen nhw farw. Er bod hunanladdiad yn gyfreithlon mewn nifer o wledydd, nid yw'r gyfraith bob amser yn caniatáu i weithwyr gofal iechyd gynorthwyo hunanladdiad. Mae deddfau sy'n cyfreithloni ewthanasia gwirfoddol yn galluogi meddygon i weithredu ar ddymuniad claf i farw heb ddioddef mwy ac hynny heb gyflawni trosedd. Dywed bod ewthanasia cyfreithlon yn galluogi marw ag urddas.

Yn ogystal â'r safbwyntiau crefyddol ac athronyddol sydd yn groes i ewthanasia, mae sawl dadl foesol a meddygol yn ei erbyn. Dadleuir bod poenliniarwyr ar gael i helpu'r claf i farw mewn urddas, a bod llawer o gleifion yn gwella ar ôl i'r meddygon roi i fyny bob gobaith. Mae rhai yn pryderu bod yn bosib nad ydy'r cleifion yn gallu gwneud penderfyniad rhesymegol neu fe allan nhw newid eu meddwl ond dydyn nhw ddim yn gallu dweud hynny wrth y meddyg. Mae consýrn hefyd fe all hen bobl neu bobl anabl deimlo eu bod nhw'n faich ar eraill ac felly yn dewis ewthanasia pan mae'n nhw eu hunain eisiau byw mewn gwirionedd, neu y gallasent gael eu rhoi dan bwysau i gytuno i'r peth. Credir rhai bod ewthanasia yn gam peryglus iawn gan ei fod yn tynnu oddi ar werth bywyd, ai fod yn dinistrio'r berthynas rhwng cleifion a meddygon: mae'r Llw Hipocrataidd yn datgan fod yn rhaid i feddygon geisio diogelu bywyd. Dadleuir hefyd pe bai gwell darpariaeth ar gyfer gofalu am y rhai sy'n marw, ni fyddai cymaint o angen am ewthanasia, a dyma'r sbardun y tu ôl i'r mudiad hosbis.

Ewthanasia anwirfoddol[golygu | golygu cod]

Gelwir ewthanasia a wneir heb ganiatad yn ewthanasia anwirfoddol. Defnyddir ewthanasia anwirfoddol pan fo unigolyn yn gwneud penderfyniad ar ran person arall sydd yn methu gwneud y penderfyniad hynny eu hunain. Weithiau gelwir ewthanasia o'r fath yn ewthanasia goddefol os yw'n terfynu triniaeth feddygol sy'n cadw person yn fyw, er enghraifft drwy ddiffodd peiriant cynnal bywyd, pan gredir bod ymennydd person wedi marw.

Ewthanasia gorfodol[golygu | golygu cod]

Terfynu bywyd rhywun yn erbyn dymuniadau'r unigolyn hwnnw yw ewthanasia gorfodol. Defnyddir y gair ewthanasia weithiau i geisio cyfiawnhau llofruddiaeth, megis glanhau ethnig neu ladd pobl anabl.

Safbwyntiau crefyddol[golygu | golygu cod]

Cristnogaeth[golygu | golygu cod]

Credir Cristnogion nid yn unig bod bywyd yn gysegredig, ond bod gan Dduw ddiddordeb a rhan ym mywyd pob unigolyn hefyd. Rhodd sanctaidd gan Dduw ydy'r einioes, a felly Duw yn unig sydd â'r hawl i ddod â bywyd i ben. Credir bod gofyn am ewthanasia, neu gynorthwyo'r broses. yn cyfrannu at lofruddiaeth. Dyfynnir sawl adnod o'r Beibl sy'n pwysleisio sancteiddrwydd bywyd ac yn awgrymu taw chwarae bod yn Dduw ydy'r weithred o gymryd bywyd, er enghraifft Job 12:10: "Yn ei law ef y mae einioes pob peth byw, ac anadl pob dyn meidrol." Dadleuir bod Duw yno bob amser i gynnal a chysuro'i greaduriaid, a pha bynnag amgylchiadau y mae person yn eu hwynebu mewn bywyd, mae'n bosib mynd â phroblemau ac anawsterau personol at Dduw a gofyn iddo am nerth ac arweiniad. Meddai 1 Corinthiaid 10:13: "Nid oes un prawf wedi dod ar eich gwarthaf nad yw'n gyffredin i ddynion. Gallwch ymddiried yn Nuw, ac nid yw ef am adael ichwi gael eich profi y tu hwnt i'ch gallu; yn wir, gyda'r prawf, fe rydd ef ddihangfa hefyd, a'ch galluogi i ymgynnal dano."

Cyfreithlondeb[golygu | golygu cod]

Cyfreithlonwyd ewthanasia gwirfoddol yn nhalaith Oregon, Unol Daleithiau America, yn 1998, yn yr Iseldiroedd yn 2000, ac yng Ngwlad Belg yn 2002.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The euthanasia debate. DOI:10.1136/jramc-147-03-22
  2. Euthanasia and assisted suicideBBC. Adolygwyd diwethaf Mehefin 2011. Cyrchwyd ar 25 Gorffennaf 2011. Archifiwyd o'r gwreiddiol yma . Fodd bynnag, nid yw cyfreithiau'r Iseldiroedd yn defnyddio'r term 'ewthanasia' ond caiff ei gynnwys o dan y diffiniad ehangach o "hunanladdiad gyda chymorth a therfynu bywyd ar gais."Gweler: http://www.schreeuwomleven.nl/abortus/text_of_dutch_euthanasia_law.doc Archifwyd 2014-01-14 yn y Peiriant Wayback.. Gweler hefyd: Ewthanasia yn yr Iseldiroedd.
Chwiliwch am ewthanasia
yn Wiciadur.