Poenliniarydd

Oddi ar Wicipedia

Meddyginiaeth a ddefnyddir i leddfu poen yw poenliniarydd neu gyffur lleddfu poen.

Gellir cymryd poenliniarwyr yn drwy'r ceg ar ffurf tabledi neu gaspiwlau, neu yn llai aml fel hylif; ar ffurf tawddgyffuriau (a roddir i mewn i'r rectwm); drwy chwistrelliad neu IV.[1]

Mathau[golygu | golygu cod]

Opioidau[golygu | golygu cod]

Defnyddir poenliniarwyr opioid, a elwir hefyd yn boenliniarwyr narcotig neu opiadau, i leddfu poen cymedrol i ddifrifol, ac fe'u rhoddir yn aml ar bresgripsiwn i gleifion sy'n gwella o driniaethau ac anafiadau difrifol neu i leddfu poen salwch terfynol megis canser. Maent yn cynnwys codin, fentanyl, meperidine, methadone, morffin, pentazocine, a thramadol.[2]

Cyffuriau di-opioid[golygu | golygu cod]

Defnyddir cyffuriau di-opioid, neu gyffuriau heb fod yn narcotig, yn bennaf i leddfu poen ysgafn i gymedrol gan gynnwys cur pen, y ddannoedd, poenau'r cyhyrau a'r cymalau, a phoenau mislif. Mae llawer o boenliniarwyr di-opioid ar gael dros y cownter. Maent yn cynnwys asid mefenamic, etodolac, fenoprofen, ketoprofen, ketorolac, parasetamol, a phiroxicam.[2]

Mae rhai poenliniarwyr di-opioid yn gyffuriau gwrthlid ansteroidol (NSAIDau) a fe'u defnyddir i drin llidau, gan gynnwys aspirin, diclofenac, ibwproffen, indomethacin, a naproxen.[2]

Poenliniarwyr cyfunol[golygu | golygu cod]

Cyfuniad o gyffuriau di-opioid ysgafn megis aspirin neu barasetamol ac ychydig bach o opioid mewn tabled unigol yw rhai poenliniarwyr. Caiff poenliniarwyr cyfunol eu rhoi ar bresgripsiwn yn aml i bobl nad ydynt yn cael budd o gyffuriau di-opioid ar eu pennau'u hunain. Mae rhai ar gael dros y cownter, ond maent yn cynnwys meintiau llai o opiadau na'r rhai sydd ar gael ar bresgripsiwn. Defnyddir poenliniarwyr cyfunol weithiau i drin meigryn. Maent yn cynnwys aspirin a codin (opioid), parasetamol a codin (opioid), dextropropoxyphene (opioid) a parasetamol, a dihydrocodeine (opioid) a parasetamol.[2]

Mecanwaith eu heffaith[golygu | golygu cod]

Nid yw'r ffordd mae poenliniarwyr yn gweithio yn cael ei deall yn iawn, ond mae poenliniarwyr gwahanol yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol. Mae NSAIDau yn gweithio trwy leddfu poen lle mae'r anaf, tra bo mathau eraill o boenliniarwyr yn rhwystro'r signalau poen o derfynau nerfau i'r ymennydd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  Cyffuriau lleddfu poen: Sut mae'n gweithio?. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 26 Tachwedd, 2009.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3  Cyffuriau lleddfu poen: Cyflwyniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Tachwedd, 2009.