Dicloffenac

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Diclofenac)
Dicloffenac
Dicloflexec
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathcyfansoddyn cemegol Edit this on Wikidata
Màs295.017 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₁₄h₁₁cl₂no₂ edit this on wikidata
Enw WHODiclofenac edit this on wikidata
Clefydau i'w trinPoen, crydcymalau gwynegol, osteoarthritis, sbondylitis asiol, crydcymalau gwynegol ieuengaidd, caleden, llid, photophobia, actinic keratosis, osteoarthritis susceptibility 1, cur pen eithafol, fibromyalgia, cymalwst, gowt, migraine without aura, rotator cuff tear, gwynegon, plantar fasciitis, medial epicondylitis, peripheral neuropathy edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c edit this on wikidata
Yn cynnwysnitrogen, ocsigen, carbon, clorin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae diclofenac yn gyffur sy'n perthyn i'r grŵp cyffur gwrthlid ansteroidol (NSAID), mae'n gyffur poen leddfol sy'n cael ei ddefnyddio i drin gwahanol fath o boenau[1] megys spondylitis ymasiol, necrosis aseptig, poen cefn, ysgwydd wedi'i rewi, y meigryn, ac ati[2].[3] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₄H₁₁Cl₂NO₂.

Gwybodaeth gyffredinol[golygu | golygu cod]

O'i ddefnyddio mewn dos unigol mae gan diclofenac priodweddau poen leddfol sy'n debyg iawn i briodweddau paracetamol. Mae'n cael ei ddefnyddio i leddfu cur pen ysgafn i gymedrol, i leddfu poenau'n gysylltiedig â'r misglwyf a phoen sy'n gysylltiedig â chlefydau llidiol fel rhiwmatig a'r gwynegon. Mae hefyd yn cael ei ragnodi i drin ymosodiadau acíwt o'r gymalwst (gowt). Mae'n cael ei ddefnyddio hefyd ar ffurf diferion i'r llygaid er mwyn trin llid ar y llygaid.

Mae'n cael ei ragnodi weithiau mewn paratoad cyfunol gyda misoprostol. Mae misoprostol yn cael ei ddefnyddio i atal wlserau dwodenwm, sef un o sgil effeithiau diclofenac.

Dosbarthiad masnachol[golygu | golygu cod]

Yn y DU mae diclofenac ar gael trwy bresgripsiwn yn unig. Mae'n cael ei ddosbarthu o dan yr enwau brand Defenac, Dicloflex, Diclomax SR, Dyloject (darpariaeth ar gyfer pigiad), Motifene, Rhumalgan a Volterol[4]

Sgil effeithiau[golygu | golygu cod]

Cyffredin[golygu | golygu cod]

  • Dŵr poeth / llosg cylla
  • Pwys cyfog / chwydu

Llai cyffredin[golygu | golygu cod]

  • Cur pen
  • Pendro
  • Chwyddo'r coesau a neu'r traed
  • Tewychu
  • Trafferth anadlu
  • Brech / cosi
  • Gwaedu wrth ymgarthu / carthion wedi eu duo gan gynnwys gwaed

Rhagofalon arbennig[golygu | golygu cod]

Beichiogrwydd[golygu | golygu cod]

Gall y cyffur achosi problemau'r galon i'r baban yn y groth ac achosi problemau wrth esgor o'i ddefnyddio yn ystod y tri mis olaf o feichiogrwydd. Mae ychydig bach o'r cyffur yn gallu treiddio i laeth y bron ond mae effeithiau andwyol i'r baban sy'n sugno yn annhebygol.

Gyrru a gwaith peryglus[golygu | golygu cod]

Gan fod y cyffur yn gallu achosi pendro, madrondod a dryswch dylid ymatal rhag gyrru / gwneud gwaith peryglus am ychydig ddyddiau hyd wybod effaith y cyffur arnoch.

Alcohol[golygu | golygu cod]

Dylid ymatal rhag diodydd cadarn wrth ddefnyddio diclofenac oherwydd y perygl cynyddol o gael gwaedlif yn yr ystumog

Defnydd meddygol[golygu | golygu cod]

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:

  • poen
  • crydcymalau gwynegol
  • Osteoarthritis
  • sbondylitis asiol
  • crydcymalau gwynegol ieuengaidd
  • caleden
  • llid
  • Cur pen eithafol
  • cymalwst
  • cymalwst
  • Gwynegon
  • Enwau[golygu | golygu cod]

    Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Dicloffenac, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;


    Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

    1. BMA New Guide to Medicine & Drugs; BMA 2015 ISBN 0241183413
    2. Diclofenac adalwyd 14 Ionawr, 2018
    3. Pubchem. "Dicloffenac". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
    4. The National Institute for Health and Care Excellence DICLOFENAC SODIUM adalwyd 14 Ionawr 2018


    Cyngor meddygol

    Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

    Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!