Ocsigen

Oddi ar Wicipedia
Ocsigen
Element 1: Hydrogen (H), Anfetelau eraill
Element 2: Heliwm (He), Nwyon nobl
Element 3: Lithiwm (Li), Metelau alcalïaidd
Element 4: Beryliwm (Be), Metel daear alcalïaidd
Element 5: Boron (B), Meteloidau
Element 6: Carbon (C), Anfetelau eraill
Element 7: Nitrogen (N), Anfetelau eraill
Element 8: Ocsigen (O), Anfetelau eraill
Element 9: Fflworin (F), Halogenau
Element 10: Neon (Ne), Nwyon nobl
Element 11: Sodiwm (Na), Metelau alcalïaidd
Element 12: Magnesiwm (Mg), Metel daear alcalïaidd
Element 13: Alwminiwm (Al), Metelau eraill
Element 14: Silicon (Si), Meteloidau
Element 15: Ffosfforws (P), Anfetelau eraill
Element 16: Swlffwr (S), Anfetelau eraill
Element 17: Clorin (Cl), Halogenau
Element 18: Argon (Ar), Nwyon nobl
Element 19: Potasiwm (K), Metelau alcalïaidd
Element 20: Calsiwm (Ca), Metel daear alcalïaidd
Element 21: Scandiwm (Sc), Elfennau trosiannol
Element 22: Titaniwm (Ti), Elfennau trosiannol
Element 23: Fanadiwm (V), Elfennau trosiannol
Element 24: Cromiwm (Cr), Elfennau trosiannol
Element 25: Manganîs (Mn), Elfennau trosiannol
Element 26: Haearn (Fe), Elfennau trosiannol
Element 27: Cobalt (Co), Elfennau trosiannol
Element 28: Nicel (Ni), Elfennau trosiannol
Element 29: Copr (Cu), Elfennau trosiannol
Element 30: Sinc (Zn), Elfennau trosiannol
Element 31: Galiwm (Ga), Metelau eraill
Element 32: Germaniwm (Ge), Meteloidau
Element 33: Arsenig (As), Meteloidau
Element 34: Seleniwm (Se), Anfetelau eraill
Element 35: Bromin (Br), Halogenau
Element 36: Crypton (Kr), Nwyon nobl
Element 37: Rwbidiwm (Rb), Metelau alcalïaidd
Element 38: Strontiwm (Sr), Metel daear alcalïaidd
Element 39: Ytriwm (Y), Elfennau trosiannol
Element 40: Sirconiwm (Zr), Elfennau trosiannol
Element 41: Niobiwm (Nb), Elfennau trosiannol
Element 42: Molybdenwm (Mo), Elfennau trosiannol
Element 43: Technetiwm (Tc), Elfennau trosiannol
Element 44: Rwtheniwm (Ru), Elfennau trosiannol
Element 45: Rhodiwm (Rh), Elfennau trosiannol
Element 46: Paladiwm (Pd), Elfennau trosiannol
Element 47: Arian (Ag), Elfennau trosiannol
Element 48: Cadmiwm (Cd), Elfennau trosiannol
Element 49: Indiwm (In), Metelau eraill
Element 50: Tun (Sn), Metelau eraill
Element 51: Antimoni (Sb), Meteloidau
Element 52: Telwriwm (Te), Meteloidau
Element 53: Ïodin (I), Halogenau
Element 54: Senon (Xe), Nwyon nobl
Element 55: Cesiwm (Cs), Metelau alcalïaidd
Element 56: Bariwm (Ba), Metel daear alcalïaidd
Element 57: Lanthanwm (La), Lanthanidau
Element 58: Ceriwm (Ce), Lanthanidau
Element 59: Praseodymiwm (Pr), Lanthanidau
Element 60: Neodymiwm (Nd), Lanthanidau
Element 61: Promethiwm (Pm), Lanthanidau
Element 62: Samariwm (Sm), Lanthanidau
Element 63: Ewropiwm (Eu), Lanthanidau
Element 64: Gadoliniwm (Gd), Lanthanidau
Element 65: Terbiwm (Tb), Lanthanidau
Element 66: Dysprosiwm (Dy), Lanthanidau
Element 67: Holmiwm (Ho), Lanthanidau
Element 68: Erbiwm (Er), Lanthanidau
Element 69: Thwliwm (Tm), Lanthanidau
Element 70: Yterbiwm (Yb), Lanthanidau
Element 71: Lwtetiwm (Lu), Lanthanidau
Element 72: Haffniwm (Hf), Elfennau trosiannol
Element 73: Tantalwm (Ta), Elfennau trosiannol
Element 74: Twngsten (W), Elfennau trosiannol
Element 75: Rheniwm (Re), Elfennau trosiannol
Element 76: Osmiwm (Os), Elfennau trosiannol
Element 77: Iridiwm (Ir), Elfennau trosiannol
Element 78: Platinwm (Pt), Elfennau trosiannol
Element 79: Aur (Au), Elfennau trosiannol
Element 80: Mercwri (Hg), Elfennau trosiannol
Element 81: Thaliwm (Tl), Metelau eraill
Element 82: Plwm (Pb), Metelau eraill
Element 83: Bismwth (Bi), Metelau eraill
Element 84: Poloniwm (Po), Meteloidau
Element 85: Astatin (At), Halogenau
Element 86: Radon (Rn), Nwyon nobl
Element 87: Ffranciwm (Fr), Metelau alcalïaidd
Element 88: Radiwm (Ra), Metel daear alcalïaidd
Element 89: Actiniwm (Ac), Actinidau
Element 90: Thoriwm (Th), Actinidau
Element 91: Protactiniwm (Pa), Actinidau
Element 92: Wraniwm (U), Actinidau
Element 93: Neptwniwm (Np), Actinidau
Element 94: Plwtoniwm (Pu), Actinidau
Element 95: Americiwm (Am), Actinidau
Element 96: Curiwm (Cm), Actinidau
Element 97: Berkeliwm (Bk), Actinidau
Element 98: Califforniwm (Cf), Actinidau
Element 99: Einsteiniwm (Es), Actinidau
Element 100: Ffermiwm (Fm), Actinidau
Element 101: Mendelefiwm (Md), Actinidau
Element 102: Nobeliwm (No), Actinidau
Element 103: Lawrenciwm (Lr), Actinidau
Element 104: Rutherfordiwm (Rf), Elfennau trosiannol
Element 105: Dubniwm (Db), Elfennau trosiannol
Element 106: Seaborgiwm (Sg), Elfennau trosiannol
Element 107: Bohriwm (Bh), Elfennau trosiannol
Element 108: Hassiwm (Hs), Elfennau trosiannol
Element 109: Meitneriwm (Mt)
Element 110: Darmstadtiwm (Ds)
Element 111: Roentgeniwm (Rg)
Element 112: Coperniciwm (Cn), Elfennau trosiannol
Element 113: Nihoniwm (Nh)
Element 114: Fflerofiwm (Fl)
Element 115: Moscofiwm (Mc)
Element 116: Lifermoriwm (Lv)
Element 117: Tenesin (Ts)
Element 118: Oganeson (Og)
Ocsigen
Ocsigen mewn cynhwysydd
Symbol O
Rhif 8
Dwysedd 1.429 kg m-3

Elfen gemegol yw ocsigen (hen air: ufelai) a ddynodir gan y symbol O a'r rhif atomig 8; mae'n perthyn i'r grŵp Chalcogen yn y tabl cyfnodol. Mae'n elfen gyffredin yn y Ddaear a'r atmosffêr a'r elfen mwyaf cyffredin o'i chrwst. Ar dymheredd a gwasgedd safonol (sef TGS), mae ar ffurf nwy, a gellir ei ddynodi gan fformiwla O2, sy'n angenrheidiol i resbiradaeth aerobig, ac felly i gynnal bywyd. Mae'r moleciwlau deuatomig yn ffurfio 21% o aer sych, ac yn rhan o nifer sylweddol o greigiau. Mae gan yr elfen alotrop arall, sef oson, O3, sy'n ffurfio haen naturiol yn y stratosffer (yr haen oson) wrth iddo gael ei ffurfio o ocsigen deuatomig o dan effaith golau uwchfioled cryf.

Mae'n elfen anfetel hynod o adweithiol ac yn ocsidydd sy'n ffurfio cyfansoddion cemegol gyda'r rhan fwyaf o elfennau'n hawdd.[1]

O ran mas, ocsigen yw'r trydydd elfen mwyaf cyffredin yn y bydysawd, yn dilyn hydrogen a heliwm.[2] Ar Dymheredd a Gwasgedd Safonol (TGS), mae dau atom o ocsigen yn bondio i ffurfio deuocsigen, nwy diatomig, di-liw, di-arogl a di-flas gyda'r fformiwla O2.

Gellir dweud fod ocsigen yn rhan hanfodol o'r atmosffer ac yn gwbwl hanfodol i gynnal bywyd gan ei fod yn rhan hanfodol o respiradaeth. Mae'n rhy adweithiol i fod yn elfen cwbwl rydd yn yr atmosffer a chaiff ei adnewyddu gan organebau byw drwy brosesau megis ffotosynthesis sy'n defnyddio golau'r haul i gynhyrchu ocsigen elfennol allan o ddŵr. Mae alatrop arall o ocsigen, sef oson yn amsugno pelydrau UVB ac o ganlyniad mae'r haen oson yn amddiffyn y bïosffer rhag pelydrau uwchfioled. Mae'r ocsigen atomig a geir ymhell uwchlaw'r ddaear yn gyfrifol am rydu awyrennau.[3] Mae ocsigen hefyd yn cael ei greu mewn diwydiant drwy ddistylliad rhanol o aer hylifol i gymryd yr ocsigen o'r aer. Defnyddir ocsigen elfennol (elemental oxygen) i gynhyrchu dur, plastig, weldio, tanwydd rocedi, ocsigen meddygol ac achubol o fewn awyrennau, llongau tanfor, Teithio i'r gofod ayb.

Tarddiad yr enwau[golygu | golygu cod]

Mae'r enw 'ocsigen' yn dod o'r enwau Groeg oxus (asid), a gennen (creawdwr). Ystyr y gair 'ufel' yw tân, a cheir y cofnod cyntaf ohono ym 1803.[4][5]

Hen enwau eraill Cymraeg ar ocsigen yw: 'bywydwy' a 'bywyr'.[6]

Darganfod yr elfen gemegol[golygu | golygu cod]

Yr ornest: Carl Wilhelm Scheele sy'n cael y clod gan fwyaf, gan guro Priestley i 'ddarganfod' ocsigen, ond a gyhoeddodd ei ddarganfyddiad ar ei ôl.

I'r fferyllydd Swedaidd Carl Wilhelm Scheele y perthyn y clod am 'ddarganfod' ocsigen; creodd yr elfen ar ffurf nwy drwy gynhesu mercwrig ocsid (HgO) a gwahanol nitradau yn Uppsala ym 1772.[7] Galwodd Scheele y nwy yn "aer ar dân" (sy'n egluro'r gair Cymraeg "ufelai") gan mai dyma'r unig nwy y gwyddai a oedd yn caniatáu ymlosgi. Ysgrifennodd gofnod o'r darganfyddiad hwn mewn dogfen a enwodd Erthygl ar Aer a Thân ym 1775. Ni chyhoeddwyd y papur, fodd bynnag tan 1777.[8]

Ar 1 Awst 1774 arbrofodd y clerigwr o Sais Joseph Priestley drwy ffocysu golau ar fercwrig ocsid (HgO) o fewn tiwb o wydr, a rhyddhaodd y nwy a enwodd yn "dephlogisticated air".[9] Sylwodd fod canhwyllau'n llosgi'n fwy gloyw a chryfach o fewn y nwy a bod llygoden yn tipyn mwy bywiog, ac yn byw'n hirach. Wedi iddo anadlu'r nwy ei hun, ysgrifennodd: "Teimlais fod fy mrest ychydig yn ysgafnach na'r arfer - a pharhaodd y teimlad hwn am ychydig wedyn." Cyhoeddodd Priestley ei ddarganfyddiadau yn 1775 mewn papur o'r enw "Cofnod o Ddarganfyddiadau Pellach mewn Aer" ac a gynhwyswyd yn ail gyfrol ei lyfr Experiments and Observations on Different Kinds of Air.[7][10] Gan mai dyddiad cyhoeddi gwybodaeth a ddefnyddir fynychaf fel llinyn mesur, barn llawer yw mai i Priestley y perthyn y clod am ddarganfod ocsigen.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "WebElements: the periodic table on the web – Oxygen: electronegativities". WebElements.com. Cyrchwyd 7 Tachwedd, 2011. Check date values in: |accessdate= (help)
  2. Emsley 2001, tud.297
  3. "Atomic oxygen erosion". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-06-13. Cyrchwyd 8 Awst 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. Geiriadur Prifysgol Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; tud. 3698
  5. Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Cylchgronau Cymru Ar-lein. Adalwyd 23 Awst 2014.
  6. Gwefan www.http://library.kiwix.org/;[dolen marw] adalwyd 23 Awst 2014.
  7. 7.0 7.1 Priestley, Joseph (1775). "An Account of Further Discoveries in Air". Philosophical Transactions 65: 384–94. doi:10.1098/rstl.1775.0039.
  8. Emsley 2001, tud.300
  9. Cook & Lauer 1968, tud.500
  10. Priestley, Joseph (1775). "An Account of Further Discoveries in Air". Philosophical Transactions 65: 384–94. doi:10.1098/rstl.1775.0039.