Ffosfforws
Ffosfforws
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
![]() | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Symbol | P | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhif | 15 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dwysedd | (gwyn) 1.823 g/cm³ (coch) 2.34 g/cm³ (du) 2.69 g/cm³ |
Enghraifft o: | elfen gemegol ![]() |
---|---|
Math | polyatomic nonmetal, Anfetel ![]() |
Deunydd | phosphorite, triphylite, monazite, hinsdalite, pyromorphite, amblygonite, lazulite, wavellite, turquoise, autunite, phosphophyllite, struvite, xenotime-(Y), apatite, hydroxylapatite, fluorapatite, chlorapatite, troeth, bone ash, guano ![]() |
Màs | 30.973761998 ±5e-09 uned Dalton ![]() |
Dyddiad darganfod | 1669 ![]() |
Symbol | P ![]() |
Rhif atomig | 15 ![]() |
Trefn yr electronnau | 1s² 2s² 2p⁶ 3s² 3p³, [Ne] 3s² 3p³ ![]() |
Electronegatifedd | 2.19 ![]() |
Cyflwr ocsidiad | 2.19 ![]() |
Rhan o | Elfen cyfnod 3, Elfen Grŵp 15 ![]() |
![]() |
Elfen gemegol yw ffosfforws a gaiff ei chynrychioli gan y symbol P
a'r rhif atomig 15 yn y tabl cyfnodol[1]. Mae'n anfetel ac yn perthyn i'r grŵp nitrogen. Yn nhrefn safonnol IUPAC mae'r grŵp hwn (sef grŵp 15) yn cynnwys: nitrogen (N) (sy'n anfetel), ffosfforws (P) (anfetel), arsenig (As) (meteloid), antimoni (Sb) (meteloid), bismwth (Bi) (metel tlawd) ac ununpentiwm (Uup) (metel tlawd), mae'n debyg.
Mae'n elfen gyffredin iawn ar y Ddaear a gellir ei ganfod mewn creigiau ffosffad, ond oherwydd ei fod yn adweithio'n sydyn, nid yw i'w ganfod yn rhydd mewn natur. Ffosfforws gwyn a gafodd ei darganfod yn gyntaf a hynny yn 1669 gan yr alcemydd Almaenig Hennig Brand.
Caiff ei defnyddio'n helaeth i wneud cynnyrch megis dur[1], gwydr arbennig [1], ceramig safon uchel[1], ffrwydron, asiantau nerfol (nerve agents), matsis (ffrithiant a "diogel"), tân gwyllt ac (fel ffosffad) mewn gwrtaith diwydiannol[1], past dannedd, a sebonau golchi[1].
Darganfyddiad
[golygu | golygu cod]Cydnabyddir yr alcemydd Ellmynig Hennig Brand o ddarganfod ffosfforws yn 1669. Wrth geisio am yr eurfaen (philosopher's stone) trwy ferwi litrau lawer o wrin (troeth) pydredig cynhyrchodd past tebyg i gwyr a oedd yn goleuo yn y tywyllwch. Yn fanwl roedd wedi cynhyrchu ffosffad amoniwm sodiwm hydrogen. Gwerthodd ei gyfrinach i D Krafft o Ddresden am 200 thaler. Teithiodd Krafft Ewrop yn ei arddangos. Un o'r rhai a'i gwelodd oedd Robert Boyle. Dyfalodd hwnnw sut i wella'r broses, ac erbyn 1680 roedd wedi defnyddio ffosfforws ar gyfer math cyntefig o fatsen[2]. (Heddiw fósforo (eg) yw'r gair Sbaeneg[3] a Phortiwgaleg am fatsien.)
Oherwydd ei natur dra adweithiol, ar ffurf wedi'i glymu ag ocsigen (wedi'i ocsideiddio) y mae ffosfforws yn bodoli mewn natur (gan cynnwys wrin) bron yn ddieithriad. Gelwir hwn yn ffosffad (PO43-; yn ei ffurf wedi'i llwyr ïoneiddio). (Pan nad yw wedi ïoneiddio, ffurfia asid ffosfforig (H3PO4).)
Ffynonellau diwydiannol ffosfforws
[golygu | golygu cod]Ers yr 1890au mwyngloddio creigiau ffosffad anorganig bu brif ffynhonnell yr elfen. Ar ffurf (amhur) ffosffad calsiwm (apatit) y mae'r rhan fwyaf ohono. Fe'i ffurfiwyd o waddodion morol dros filiynau o flynyddoedd cyn dod i'r wyneb drwy symudiadau tectonig y ddaear. Yn yr Unol Daleithiau cychwynnodd y diwydiant, ond mae bellach cyflenwadau sylweddol ohono yn Tsieina a Rwsia. Ond o bwys yn yr hinsawdd geo-wleidyddol bresennol yw bod tua hanner cyflenwad y byd i'w canfod mewn gwledydd arabaidd[4] , yn bennaf Moroco, lle mae dros 70% ar hyn o bryd.
Ffosfforws mewn pethau byw
[golygu | golygu cod]
Mae'r elfen ffosfforws yn bresennol ym mhopeth byw at y ddaear ac nid oes modd cynnal bywyd hebddo. Mae'n chwarae rôl hollbwysig ym mhrosesau biocemeg rheoli ac egnio bywyd. Mae'n debyg iddo chwarae rhan holl bwysig wrth i fywyd ffurfio (abiogenesis) tua phedwar biliwn (mil miliwn) o flynyddoedd yn ôl. Datgelir hyn heddiw yn ei rôl greiddiol mewn asidau niwclëig (DNA ac RNA) a'r ffosffolipidau sy'n ffurfio pilen pob cell - ddwy gydran hanfodol i fywyd. Mae'n rhan hollbwysig a gweithredol o'r moleciwl ATP sy'n ganolog i gyfundrefn egni bywyd at y ddaear. Mae'n debygol fod adweithiau’r moleciwl hwn (sef ATP) a'u gwreiddiau yn y byd abiotig[5].
Halwynau ffosffad calsiwm yw cyfansoddiad "caled" esgyrn a dannedd[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) Royal Society of Chemistry (Safle Periodic Table). Phosphorus http://www.rsc.org/periodic-table/element/15/phosphorus
- ↑ (Saesneg) Peter Baccini; Paul H. Brunner. Metabolism of the Anthroposphere. MIT Press, 2012. tud. 288. ISBN 0262300540.
- ↑ Diccionario Español Inglés, Peers EA et al, (gol 1976) Cassell Llundain
- ↑ (Saesneg) http://minerals.usgs.gov/minerals/pubs/commodity/phosphate_rock/ Archifwyd 2019-01-09 yn y Peiriant Wayback Darllennwyd 17 Ebrill 2017.
- ↑ (Saesneg) Keller, Markus A.; Turchyn, Alexandra V.; Ralser, Markus (25 Mawrth 2014). "Non‐enzymatic glycolysis and pentose phosphate pathway‐like reactions in a plausible Archean ocean". Molecular Systems Biology (Heidelberg, Germany: EMBO Press ar ran yr European Molecular Biology Organization) 10 (725). doi:10.1002/msb.20145228. ISSN 1744-4292. PMC 4023395. PMID 24771084. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4023395.
- ↑ (Saesneg) Sidney Omelon, Marianne Ariganello, Ermanno Bonucci, Marc Grynpas, and Antonio Nanci. (2013) A Review of Phosphate Mineral Nucleation in Biology and Geobiology. Calcif Tissue Int. 93, 382–396. doi: 10.1007/s00223-013-9784-9 PMCID: PMC3824353 https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC3824353/ (Hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ffosffad geogemegol.)