Elfen Grŵp 15

Oddi ar Wicipedia
Grŵp → 15
↓ Cyfnod
2 7
N
3 15
P
4 33
As
5 51
Sb
6 83
Bi
7 115
Uup

Grŵp pymtheg elfen yn y tabl cyfnodol ydy Grŵp 15, neu'r grŵp nitrogen. Yn nhrefn safonnol IUPAC mae grŵp 15 yn cynnwys:
nitrogen (N) (sy'n anfetel), ffosfforws (P) (anfetel), arsenig (As) (meteloid), antimoni (Sb) (meteloid), bismwth (Bi) (metel tlawd) ac ununpentiwm (Uup) (metel tlawd), mae'n debyg.

Mae IUPAC yn ei alw'n swyddogol efo'r teitl Grŵp 15. Yr hen enw i'r grŵp oedd "Grŵp VB" a "Grŵp VA".[1]

Mae patrwm yr electronnau rhwng aelodau unigol y teulu yn debyg iawn i'w gilydd, yn enwedig ar du allan y gragen, ac oherwydd hyn mae eu hymddygiad cemegol yn debyg i'w gilydd:

Z Elfen Nifer yr electronnau
7 nitrogen 2, 5
15 ffosfforws 2, 8, 5
33 arsenig 2, 8, 18, 5
51 antimoni 2, 8, 18, 18, 5
83 bismwth 2, 8, 18, 32, 18, 5
115 ununpentiwm 2, 8, 18, 32, 32, 18, 5

Mae gan bob un o'r elfennau hyn 5 electron yn haen allanol y gragen; 2 electron yn yr isgragen 's' a 3 electron yn yr isgragen 'p', .

Yr elfen bwysicaf, mae'n debyg, yn y teulu hwn o elfennau ydy nitrogen (symbol cemegol N) sef prif elfen yr aer sydd o'n cwmpas.

Casgliad o rai o'r elfennau o'r grŵp nitrogen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Fluck, E. New notations in the periodic table. Pure & App. Chem. 1988, 60, tud 431-436.[1]