Grŵp yn y tabl cyfnodol

Oddi ar Wicipedia
Grŵp yn y tabl cyfnodol
Mathcyfres gemegol Edit this on Wikidata
Rhan otabl cyfnodol Edit this on Wikidata

Mae grŵp yn deulu o elfennau tebyg mewn colofn fertigol o'r tabl cyfnodol.

Ystyrir grwpiau yn un o brif nodweddion defnyddiol y tabl cyfnodol. Mae bron pob grŵp yn cynnwys elfennau tebyg, gyda phatrymau ym mhriodweddau'r elfennau wrth fynd i lawr grŵp. Rhoddir enwau i nifer o'r grwpiau hyn, yn cynnwys y Metelau alcalïaidd (grŵp 1), yr Halogenau (grŵp 7) a'r nwyon nobl (grŵp 0). Mae rhai grwpiau, yn enwedig yn y bloc-p, yn dangos llai o debygrwydd ymysg yr elfennau felly nid oes enw ychwanegol (e.e. Grŵp 14 a Grŵp 15). Gall theorïau mecaneg cwantwm modern o adeiledd atomig egluro'r patrymau hyn. Mae pob elfen yn yr un grŵp yn cynnwys yr un nifer o electronau yn eu plisg falens (y plisg allanol) sy'n rheoli eu priodweddau cemegol.

Y grwpiau[golygu | golygu cod]

Dyma grwpiau’r tabl cyfnodol:

Trefn rhifo newydd IUPAC Yr hen IUPAC (Ewropeaidd) CAS (Americanaidd) Enw
Grŵp 1 IA IA Y metalau alcalïaidd neu deulu'r lithiwm
Grŵp 2 IIA IIA Y metelau daear alcalïaidd neu deulu'r beriliwm
Grŵp 3 IIIA IIIB Teulu'r sgandiwm sy'n cynnwys yr elfennau Daear prin a'r actinadau
Grŵp 4 IVA IVB Y teulu titaniwm
Grŵp 5 VA VB Y teulu Fanadiwm
Grŵp 6 VIA VIB Y teulu cromiwm
Grŵp 7 VIIA VIIB Y teulu manganis
Grŵp 8 VIII VIIIB Y teulu haearn
Grŵp 9 VIII VIIIB Y teulu cobalt
Grŵp 10 VIII VIIIB Y teulu nicel
Grŵp 11 IB IB Y teulu efydd
Grŵp 12 IIB IIB Y teulu sinc
Grŵp 13 IIIB IIIA "the triels", y teulu boron
Grŵp 14 IVB IVA "the tetrels", y teulu carbon
Grŵp 15 VB VA Y teulu nitrogen
Grŵp 16 VIB VIA Y teulu Chalcogenau neu'r teulu ocsigen
Grŵp 17 VIIB VIIA Yr halogenau
Grŵp 18 Group 0 VIIIA Y teulu nwyon nobl neu weithiau'r teulu heliwm neu neon

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]