Chalcogen

Oddi ar Wicipedia
Chalcogen
Enghraifft o'r canlynolGrŵp yn y tabl cyfnodol, main group Edit this on Wikidata
Mathelfen gemegol Edit this on Wikidata
Rhan otabl cyfnodol, p-block Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganElfen Grŵp 15 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganHalogen Edit this on Wikidata
Yn cynnwyselfen gemegol, ocsigen, sylffwr, seleniwm, telwriwm, poloniwm, Lifermoriwm Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Grŵp → 16
↓ Cyfnod
2 8
O
3 16
S
4 34
Se
5 52
Te
6 84
Po
7 116
Uuh

Grŵp o un-ar-bymtheg elfen yn y tabl cyfnodol ydy Grŵp 16, neu'r grŵp calcogen ac weithiau fe'i gelwir "y grŵp ocsigen". Yr hen enw arnynt oedd grŵp VIB neu VIA. Yn nhrefn safonnol IUPAC mae grŵp 16 yn cynnwys: ocsigen (O), swlffwr (S), seleniwm (Se), telwriwm (Te), yr elfen ymbelydrol poloniwm (Po), a'r elfen synthetig ununhecsiwm (Uuh).

Mae ocsigen, swlffwr a soleniwm yn anfetelau a telwriwm a pholoniwm yn feteloid ac ununhecsiwm yn fetel tlawd.

Anaml iawn, fodd bynnag, y disgrifir ocsigen fel aelod o'r teulu hwn. [1]

Nodweddion[golygu | golygu cod]

Mae patrwm yr electronnau rhwng aelodau unigol y teulu yn debyg iawn i'w gilydd, yn enwedig ar du allan y gragen, ac oherwydd hyn mae eu hymddygiad cemegol yn debyg i'w gilydd:

Z Elfen Nifer yr electronnau
8 ocsigen 2, 6
16 swlffwr 2, 8, 6
34 seleniwm 2, 8, 18, 6
52 telwriwm 2, 8, 18, 18, 6
84 poloniwm 2, 8, 18, 32, 18, 6
116 ununhecsiwm 2, 8, 18, 32, 32, 18, 6

Anfetelau ydy ocsigen a swlffwr. Metaloid ydy seleniwm, telwriwm a poloniwm; fodd bynnag, yn eu ffurfiau elfennol, gelwir telwriwm a seleniwm yn fetel.

Mae'r calcogennau metalig i'w cael yn naturiol drwy'r byd e.e. mwyn haearn ydy pyreit (FeS2)

Allwedd o'r tabl ar y dde:
Anfetalau Metaloidau Metalau eraill Mae'r rhif atomig mewn coch yn nwyon Mae'r rhif atomig mewn du yn solidau Mae blwch gydag ymyl trwchus yn cynnwys elfennau primordaidd sy'n hŷn na'r Ddaear Mae blychau gydag ymyl toredig yn cynnwys elfennau ymbelydrol sy'n dadfeilio Mae blychau gydag ymyl o ddotiau yn cynnwys elfennau synthetig ymbelydrol.

Yr enw[golygu | golygu cod]

Daw'r enw o ddau air Groegaidd: χαλκος (chalkos) sy'n golygu "copr" a γενεσ (genes) sy'n golygu geni neu "creu".[2] Fe'i defnyddiwyd am y tro cyntaf yn 1930 gan Wilhelm Biltz o Brifysgol Hanover wedi i Werner Fischer fathu'r gair. Yn anffodus dydy aelodau'r grŵp yma ddim yn creu copr; ond maen nhw'n creu mwynau (Saesneg: ore forming). Cysylltwyd y gair Groeg "chalkos" efo unrhyw gerrig a oedd yn cynnwys metel.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. A Second Note on the Term "Chalcogen"
  2. Online Etymology Dictionary -gen