Dadfeilio ymbelydrol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arwydd sy'n rhybuddio'r darllenydd o beryglon ymbelydredd a graddfa'r perygl hwnnw.

Proses mewn ffiseg ydy dadfeiliad ymbelydrol pan fo niwclews atomig ansefydlog yr elfen gemegol yn colli neu'n rhyddhau egni drwy ioneiddio gronynnau h.y. drwy daro atomau a bwrw electronau i ffwrdd ohonyn nhw. Nid yw'r niwclews (wrth ddadfeilio) yn bwrw yn erbyn gronynnau eraill. Canlyniad y dadfeilio yw bod y fam atom cychwynol yn trawsffurfio i fod yn atom o fath gwahanol (y "ferch"). Er enghraifft: mae'r fam-atom Carbon-14 yn taflu ymbelydredd ac yn trawsffurfio yn nitrogen-14, sef y ferch-atom. Yn ôl rheolau mecaneg cwantwm, ni allwn gyfrifo a rhagweld faint o amser y cymer i'r atom hwn - a phob atom arall - ddadfeilio. Ond gan fod cymaint o atomau yn dadfeilio ar yr un pryd, gallem fod yn eithaf hyderus fod y cyfrifiad yn eithaf agos i'w le.[1]

Caiff ymbelydredd ei fesur mewn Becquerelau, Bq. Diffiniad o un Bq ydy un dadfeiliad pob eiliad. Gan fod llawer o atomau mewn sampl labordy, mae'r Bq yn fesur pitw bach iawn a gall fesur cyn lleied â GBq (gigabecquerel, 1 x 109 dadfeiliad yr eiliad) neu TBq (terabecquerel, 1 x 1012 dadfeiliad yr eiliad). Dull arall o fesur ymbelydredd ydy'r curie, Ci.

Mae cyfradd dadfeilio sampl ymbelydrol mewn cyfrannedd union â'r nifer o atomau ansefydlog sydd yn y sampl. Gellir darganfod y gyfradd drwy luosi'r nifer o atomau gyda'r cysonyn dadfeilio, λ. Mae gan y cysonyn hwn berthynas â hanner oes y sampl a ddiffinnir gan λ = ln2 / T½, lle mae ln2 yn logarithm naturiol dau (oddeutu 0.693), a T½ yw hanner oes y sampl.

Cyfeiriadau[golygu]