Rhif atomig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mewn Cemeg a Ffiseg, y rhif atomig (Z) yw nifer y protonau a ddarganfyddir yng nghnewyllyn yr atom. Mewn atom sydd â gwefr niwtral, mae nifer yr electronau o amglych y niwclews yn hafal i'r rhif atomig.

Yn wreiddiol, roedd y rhif yn dangos safle'r elfen yn y tabl cyfnodol yn unig. Pan drefnodd Dmitri Mendeleev yr elfennau cemegol hysbys yn grwpiau yn ôl eu tebygrwydd cemegol, gwelodd bod trefnu'r elfennau yn ôl eu màs atomig yn gadael rhai yn anghymharus. Wrth roi'r elfennau mewn trefn a oedd yn ffitio'u priodweddau cemegol agosaf, eu rhifau yn y tabl oedd eu rhifau atomig. Roedd y rhif yma bron ar gyfartaledd gyda màs yr atom ond hefyd yn adlewyrchu rhyw briodwedd arall.

Esboniwyd yr anomaliau yn y gyfres hon yn 1913 gan Henry Gwyn Jeffreys Moseley. Darganfu Moseley berthynas pendant rhwng spectra diffreithiant pelydrau X yr elfennau, a'u lleoliad cywir yn y tabl cyfnodol. Dangoswyd yn hwyrach fod y rhif atomig yn cyfateb i wefr drydanol y niwclews - hynny yw, nifer y protonau. Y wefr sy'n rhoi i elfennau eu priodweddau cemegol, yn hytrach na'r mas atomig.

Mae gan rhif atomig elfen, berthynas agos i'w rhif màs (er na ddylid eu cymysgu) sef y nifer o brotonnau a niwtronnau mewn niwclews atom. Daw'r rhif màs yn aml ar ôl enw'r elfen e.e. Carbon-14 (a ddefnyddir mewn dyddio Carbon).


Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am rhif atomig
yn Wiciadur.