Falens

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolffenomen naturiol Edit this on Wikidata
Mathnifer endidau Edit this on Wikidata

Falens yw sut y mae atomau cemegol elfennol yn cysylltu â’i gilydd i ffurfio molecylau[1]. Bu darganfod y priodoledd hwn yn rhan bwysig o ddatblygiad y ganfyddiaeth fodern o atom a moleciwl. Gwyddom, bellach, bod falens yn ddibynnol ar batrwm electronau atomau.

Cynllun "ronynnau eithaf" y cemegydd William Higgins (1789). Rhagfynegiad priodoledd falens atomau.

Yn fuan wedi datblygu’r syniadau o elfennau cemegol, trwy arbrofion gofalus, daeth i’r amlwg eu bod yn cyfuno a'i gilydd yn gyson ac yn gyfraneddol. Yn 1789 cyhoeddodd y cemegydd o Iwerddon William Higgins[2] ei syniadau am gyfuniad “ronynnau eithaf” a rhagfynegodd y disgrifiad ffurfiol gyntaf gan y cemegydd o Loegr Edward Frankland[3] yn 1852.  Gydag esboniad Ernest Rutherford o strwythur yr atom bu modd i’r Americanwr Gilbert Lewis[4], yn 1916, esbonio falens yn nhermau tueddiad atomau (brif grŵp) i gasglu wyth electron mewn plysg falens pan fyddant yn cyd-gysylltu, neu ffurfio ionau.  Er enghraifft, trwy ranni un electron mae atom sodiwm (sydd ag un electron yn ei orbit falens) yn cydweithio ag atom clorin (sydd a saith) i ffurfio dwy ion (Na+ a Cl-) ag wyth electron yn eu horbitau falens. Yn yr un modd mae pedwar atom hydrogen, sydd ag un electron, yn cyfrannu’r pedwar electron sydd eu hangen i osod wyth electron yn orbit falens atom carbon mewn moleciwl o fethan. (Dau electron, yn hytrach nag wyth, sy’n llenwi plysg falens atomau hydrogen a heliwm.)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Burrows, Andrew; ag eraill (2017). Chemistry3. Rhydychen: OUP. ISBN 9780198733805.
  2. Partington, J.R. (1955). "William Higgins, Chemist (1763-1825)". Nature 176: 8-9. https://www.nature.com/articles/176008a0.pdf.
  3. Crosson, Sally (18 Ionawr 2017). "Scientist of the Day - Edward Frankland". Linda Hall Library. Cyrchwyd 7 Mai 2021.
  4. Hildebrand, Joel H. (1958). Gilbert Newton Lewis (PDF). Washington D.C.: National Academy of Sciences (US).