Nwy nobl

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Nwyon nobl)
Grŵp → 18
↓ Cyfnod
1 2
He
2 10
Ne
3 18
Ar
4 36
Kr
5 54
Xe
6 86
Rn
7 118
Uuo

Allwedd
Nwy Nobl
Nwy
Elfen primordaidd
Ers dadfeiliad
Synthetig

Y nwyon nobl yw'r elfennau cemegol sy'n aelodau o grŵp 18 o'r tabl cyfnodol. Mae'r gyfres gemegol hon yn cynnwys: heliwm, neon, argon, crypton, senon a radon.

Defnyddir Neon mewn arwyddion lliwgar

Enwi[golygu | golygu cod]

Daeth enw presennol yr elfennau hyn, 'y nwyon nobl', o'u priodweddau cemegol. Maent yn eithaf anadweithiol gan fod ganddynt blisg electron allanol llawn, ac felly maent yn debyg i'r metelau nobl. Eu henw blaenorol oedd 'y nwyon anadwedithol' ond wrth i gemegwyr eu hastudio, darganfuwyd fod aelodau trymach y grŵp yn cyflawni rhai adweithiau cemegol a chreu cyfansoddion gydag ocsigen a fflworin. Roedd eu henw gwreiddiol 'y nwon prin' yn anghywir hefyd, gan fod un aelod o'r grŵp yn bresennol mewn meintiau sylweddol yn atmosffer y Ddaear (argon yw 0.93% o'r aer ).

Priodweddau[golygu | golygu cod]

Priodweddau Ffisegol[golygu | golygu cod]

O dan amodau safonol mae holl aelodau'r grŵp yn nwyon di-liw monatomig. Mae’r grymoedd rhwng yr atomau yn rhai deupol anwythol-deupol (grymoedd van der Waals) gwan iawn, ac mae hwn yn arwain at eu berwbwyntiau a’u hymdoddbwyntiau isel iawn. Mae cryfder grymoedd van der Waals yn dibynnu ar allu'r gronynnau i ffurfio deupolau dros-dro, ac er bod gan aelodau trymach y grŵp fwy o electronau na rhai sylweddau moleciwlar hylifol, mae eu natur atomig yn ei wneud yn llai debygol o ffurfio deupolau dros-dro.

Priodweddau ffisegol[golygu | golygu cod]

Priodwedd Rhif atomig Màs atomig (u) Ymdoddbwynt (°C) Berwbwynt (°C) Dwysedd (g cm−3)
Heliwm 2 4.00 -272 -268.83 0.1786
Neon 10 20.2 -248.52 -245.92 0.9002
Argon 18 39.9 -189.6 -185.81 1.7818
Crypton 36 82.92 -157 -151.7 3.708
Senon 54 130.2 -111.5 -106.6 5.851
Radon 86 222.4 -71 -62 9.97
Ununoctiwm 118 * * * *

* Nid yw Ununoctiwm eto wedi ei ganfod; lle na ymddengys gwerth yn y tabl nid yw wedi ei fesur, a lle yr ymddengys gwerth amcangyfrif ydyw ar sail mesuriadau o elfennau eraill.

Priodweddau Cemegol[golygu | golygu cod]

Mae pob aelod o'r grŵp yn dangos adweithedd isel iawn, gyda heliwn a neon yn hollol anadweithiol. Gall senon a crypton cyflawni nifer fach o adweithiau cemegol yn y labordy, ac yn diweddar mae rhai cyfansoddion argon wedi eu paratoi. Mae eu hadweithedd isel wedi ei gysylltu a'u hadeiledd electronig, gyda phlisgyn falens llawn ym mhob un o'r elfennau hyn. Oherwydd hyn, nid oes ganddynt tuedd i ennill na cholli electronau h.y. mae eu hegnïon ïoneiddiad yn uchel a'u helectronegatifeddau'n isel.

Lliw a roddir[golygu | golygu cod]

Colors and spectra (bottom row) of electric discharge in pure noble gases
Glass tube shining violet light with a wire wound over it Glass tube shining orange light with a wire wound over it Glass tube shining violet-blue light with a wire wound over it Glass tube shining white light with a wire wound over it Glass tube shining blue light with a wire wound over it
Illuminated light red gas discharge tubes shaped as letters H and e Illuminated orange gas discharge tubes shaped as letters N and e Illuminated blue gas discharge tubes shaped as letters A and r Illuminated white gas discharge tubes shaped as letters K and r Illuminated violet gas discharge tubes shaped as letters X and e
Glass tube shining red Glass tube shining red Glass tube shining red Glass tube shining red Glass tube shining red
Heliwm Neon Argon
(gyda pheth Hg)
Crypton Senon

Hanes y grŵp[golygu | golygu cod]

Nid oedd y nwyon nobl yn rhan o’r tabl cyfnodol gwreiddiol, gan nad oeddynt yn hysbys pan wnaeth Mendeleev ei waith gwreiddiol. Heliwm oedd yr elfen cyntaf i’w ddarganfod yn ystod gwaith sbectrosgopig ar olau’r Haul yn ystod 1868. Darganfuwyd heliwm ar y Ddaear yn 1895 mewn canrannau bach yn yr atmosffer.

Ununoctiwm[golygu | golygu cod]

Ununoctiwm yw’r enw rhoddir i’r elfen anhysbys gyda’r rhif atomig 118, ar sail y nifer o brotonau yn y niwclews. Nid oes unrhyw isotop o’r elfen hon wedi ei ddarganfod yn naturiol, na’i greu yn artiffisial. Disgwylir i’r elfen fod yn nwy nobl o dan radon, gyda phlisgyn falens llawn yn ei wneud yn gemegol anadweithiol. Ni ddisgwylir i unrhyw elfen gyda niwclews mor fawr i fod yn sefydlog, a fel yr elfennau trwm eraill byddai ununoctiwm yn elfen ymbelydrol gydag hanner oes llawer yn llai nag eiliad.

Defnyddio’r elfennau[golygu | golygu cod]

Llenwir balwnau tywydd gyda'r nwy heliwm

Defnyddir nifer o’r nwyon nobl i wneud goleuadau. Defnyddir argon i lenwi bylbiau golau cyffredin gan ei fod yn creu atmosffer anadweithiol o amgylch y metel wyn-boeth er mwyn ei arbed rhag ocsidio’n syth. Mae rhai eraill o’r nwyon nobl yn allyrru golau o liwiau penodol pan eu defnyddir mewn tiwbiau golau (‘’’goleuadau neon’’’).

Mae argon yn nwy eithaf cyffredin, felly mae’n cael ei ddefnyddio i greu atmosffer anadweithiol wrth weldio ac wrth syntheseiddio cyfansoddion sy’n adweithio gydag aer, yn enwedig rhai sy’n adweithio gyda nitrogen. Mae dwysedd heliwm yn isel iawn, ac llawer yn llai na dwysedd aer, felly defnyddir y nwy mewn balwnau tywydd neu llongau awyr. Mae hydrogen yn nwy llai dwys eto, ond mae’n fflamadwy iawn, ac ar ôl trychineb y llong awyr Hindenberg.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Yr elfennau[golygu | golygu cod]

Cyfansoddion[golygu | golygu cod]