Celsius

Oddi ar Wicipedia
Celsius
Enghraifft o'r canlynolSystem Ryngwladol o Unedau, System Ryngwladol o Unedau gydag enw arbennig, uned o dymheredd, uned sy'n deillio o UCUM, uned heb drosi safonol i SI Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Thermomedr yn cyfrifo yn y raddfa Celsius

Celsius yw graddfa uned fesur ar gyfer tymheredd[1][2]. Fel uned o'r System Ryngwladol o Unedau (SI) mae'n cael ei ddefnyddio ymhob gwlad ar draws y byd heblaw am Unol Daleithiau America a Liberia. Fe'i enwir ar ôl yr astromegydd o Sweden, Anders Celsius (1701–1744), a datblygodd graddfa tebyg ar gyfer mesur tymheredd. Yr enw swyddogol ar yr uned fesur oedd y ‘canradd’ neu ‘sentigred’ ond newidiwyd hyn yn 1948 mewn teyrnged i'w sefydlydd, Anders Celsius. Mae'r enw canradd yn gyfieithiad benthyg ar ddelw'r Saesneg centigrade o'r Lladin centum a olygir ‘100’ a gradus a olygir ‘gradd’.

Gall y gradd Celsius (°C) gyfeirio at dymheredd benodol ar y raddfa Celsius yn ogystal â uned i fesur tymheredd interval mathemategol, y gwahaniaeth rhwng dau dymeredd ac ansicrwydd.

Cyn 1954, roedd graddfa Celsius wedi'i seilio ar 0 °C ar gyfer pwynt rhewi dŵr a 100 °C ar gyfer y pwynt berwi dŵr ar 1 pwysedd wrth wraidd. Roedd hyn yn dilyn newid a gyflwynwyd yn 1743 gan Jean-Pierre Christin i wrthdroi graddfa thermometr Celsius (o ddŵr yn berwi ar radd 0 a rhew yn toddi ar 100 gradd). Mae'r raddfa hon yn cael ei addysgu'n eang mewn ysgolion heddiw.

Delwedd o thermomedr wreiddiol Anders Celsius. Noder fod y gyfradd tu chwith, lle ceir 100 fel y pwynt rhewi dŵr a'r 0 fel y pwynt berwi.

Trwy gytundeb rhyngwladol, ers 1954 "gradd Celsius" mae'r uned graddfa Celsius yn cael eu diffinio gan sero absoliwt a phwynt triphlyg 'Vienna Standard Mean Ocean Water' (VSMOW), dŵr puro arbennig. Mae'r diffiniad hwn hefyd yn ymwneud yn fanwl gywir â graddfa Celsius i raddfa Kelvin, sy'n diffinio'r uned sylfaen SI o dymheredd thermodynamig gyda'r symbol K. Diffinnir sero, y tymheredd isaf posibl, wedi'i ddiffinio fel 0K a -273.15 °C yn union. Diffinnir tymheredd y pwynt driphlyg fel yn union 273.16 K (0.01 °C; 32.02 °F).[3] Mae hyn yn golygu bod gwahaniaeth tymheredd o un gradd Celsius ac un kelvin yn union yr un fath.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Celsius temperature scale". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 19 Chwefror 2012. Celsius temperature scale, also called centigrade temperature scale, scale based on 0 ° for the freezing point of water and 100 ° for the boiling point of water at 1 atm pressure.
  2. Helmenstine, Anne Marie (15 Rhagfyr 2014). "What Is the Difference Between Celsius and Centigrade?". Chemistry.about.com. About.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-02. Cyrchwyd 16 Mawrth 2015.
  3. "SI brochure, section 2.1.1.5". International Bureau of Weights and Measures. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Medi 2007. Cyrchwyd 9 Mai 2008. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. "Essentials of the SI: Base & derived units". Cyrchwyd 9 Mai 2008.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]