Robert Boyle
| Robert Boyle | |
|---|---|
| Ganwyd | 25 Ionawr 1627 Lios Mór, Lismore Castle |
| Bu farw | 31 Rhagfyr 1691 Llundain |
| Man preswyl | Swydd Waterford, Lloegr |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | ffisegydd, cemegydd, athronydd |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | Deddf Boyle, New Experiments Physico-Mechanicall, Touching the Spring of the Air and its Effects, The Sceptical Chymist |
| Prif ddylanwad | Galileo Galilei, René Descartes, Francis Bacon, Cornelis Drebbel, Otto von Guericke, Ibn Tufayl |
| Tad | Richard Boyle |
| Mam | Catherine Fenton |
| Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Ffisegydd a chemegydd o Iwerddon oedd Syr Robert Boyle (25 Ionawr 1627 – 30 Rhagfyr 1691).
Ganwyd Robert Boyle yn seithfed fab i Iarll Cyntaf Cork. Cafodd ei addysg yn Eton. Ar ôl cyfnod o deithio tramor aeth i fyw yn Stalbridge, Dorset, ac ar ôl hynny symudodd i fyw yn Rhydychen.
Yn Rhydychen gwnaeth gyfres o arbrofion ar natur a chyfansoddiad awyr. Ffrwyth yr ymchwil honno oedd pwmp awyr gwell a'r ddeddf wyddonol enwog sy'n dwyn ei enw, sef Deddf Boyle. Roedd yn aelod o grŵp o philosophyddion natur a sefydlodd y Gymdeithas Frenhinol yn 1663; dewiswyd Boyle yn llywydd y gymdeithas yn 1680 ond gwrthododd yr anrhydedd. Boyle oedd y cyntaf i adnabod gwir natur elfen ac i wahaniaethu rhwng compownd a chymysgfa.
Mae Darlithiau Boyle yn gyfres flynyddol o wyth ddarlith, a sefydlwyd gan Boyle ac a ariannir o'i etifeddiaeth, sy'n amddiffyn Cristnogaeth.