Cwmni India'r Dwyrain

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolbusnes, menter, colonial society Edit this on Wikidata
MathEast India Company Edit this on Wikidata
Daeth i ben1 Mehefin 1874 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu31 Rhagfyr 1600 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysBengal Army Edit this on Wikidata
SylfaenyddJohn Watts, George White Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolcwmni cyd-stoc Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain, East India House, Crosby Hall, London Edit this on Wikidata
Enw brodorolBritish East India Company Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cwmni cydgyfalaf siartredig o Deyrnas Lloegr, ac yn ddiweddarach Prydain Fawr, yn ystod Oes y Darganfod a'r Hen Imperialaeth oedd Cwmni India'r Dwyrain (Saesneg: East India Company) a gafodd ran fawr yn natblygiad yr Ymerodraeth Brydeinig, yn enwedig yn is-gyfandir India. Yn llawn ei enw ffurfiol oedd Llywodraethwr a Chwmni Marsiandïwyr Llundain yn Masnachu i India'r Dwyrain (Governor and Company of Merchants of London Trading into the East Indies) ers ei siartro ym 1600 i 1708, a Chwmni Unedig Marsiandïwyr Lloegr yn Masnachu i India'r Dwyrain (United Company of Merchants of England Trading to the East Indies) o 1708 hyd at ei ddadsefydlu ym 1873. Fe'i gelwir weithiau yn Gwmni Seisnig India'r Dwyrain neu Gwmni Prydeinig India'r Dwyrain, er mwyn ei wahaniaethu oddi ar gwmnïau tebyg o wledydd eraill Ewrop. Cychwynnodd drwy ymelwa ar farchnadoedd newydd yn Ne Ddwyrain Asia a sefydlu monopolïau ar hyd arfordir dwyreiniol India, yn aml gyda nerth milwrol. Yn nechrau'r 18g, datblygodd y cwmni yn gorff llywodraethol ac yn gyfrwng i imperialaeth Brydeinig yn India, gan reoli'r holl wlad o ail hanner y 18g hyd at sefydlu'r Raj ym 1858.

Sefydlwyd y cwmni ar 24 Medi 1599 gan garfan o foneddigion, morwyr, a dynion busnes Llundeinig, yn eu plith yr Arglwydd Faer Syr Stephen Soame, yr Archwilydd Syr Thomas Smythe, y fforwyr William Baffin a Ralph Fitch, yr awdur Richard Hakluyt, a'r preifatîr Syr James Lancaster. Nod y fenter newydd, a ysbrydolwyd gan Gwmni'r Lefant, oedd i gystladu â'r Iseldirwyr yng Nghefnfor India a masnachu yn uniongyrchol â gwledydd India'r Dwyrain—yr hen enw ar Ynysfor Maleia, Indo-Tsieina, ac India—yn hytrach nag ar hyd Lwybr y Sbeisys trwy'r Dwyrain Canol. Ers rhyw ddeng mlynedd, wedi methiant Armada Sbaen, gobaith y Saeson oedd torri monopolïau ymerodraethau Sbaen a Phortiwgal ar y fasnach sbeisys yn India'r Dwyrain, ac yn sgil chwalu'r trafodaethau heddwch rhwng Lloegr a Sbaen, cytunodd Coron Loegr i gefnogi'r fenter. Derbyniodd y cwmni ganiatâd ffurfiol oddi ar y Frenhines Elisabeth I ar 23 Medi 1600, a chafodd ei gorffori gan siarter frenhinol ar 31 Rhagfyr 1600.[1]

Hyd at 1612, ariannodd Cwmni India'r Dwyrain fordeithiau drwy danysgrifiadau ar wahân. Lansiwyd y cyntaf o'r rheiny, dan gapteiniaeth Syr James Lancaster, ar fanerlong y Red Dragon ar 13 Chwefror 1601. Cyrhaeddodd Aceh, ar ynys Sumatera, ym Mehefin 1602, ac ymhen flwyddyn arall fe ddychwelodd Lancaster i Loegr gyda sbeisys wedi eu prynu oddi ar Swltan Aceh, yn ogystal â sbeisys wedi eu ysbeilio o un o garacau'r Portiwgaliaid. Ym 1613 codwyd £418,000 (gwerth $44 miliwn yn 2019) ar gyfer cydgyfalaf cyntaf y cwmni, a chynyddodd i £1.6 miliwn (£168 miliwn yn 2019) ar gyfer yr ail gydgyfalaf ym 1617.[2] Codwyd rhagor dros dro nes i gydgyfalaf parhaol gael ei sefydlu ym 1657.

Teithiodd Syr Thomas Roe i Ymerodraeth y Mughal ym 1615–18 ar genhadaeth i'r Ymerawdwr Jahangir, a llwyddodd i dderbyn caniatâd i sefydlu gorsaf fasnachu i Gwmni India'r Dwyrain yn Surat, gan felly rhoi i'r cwmni ei droedle cyntaf yn India. Ar yr un pryd, wynebodd y Saeson fwy o gystadleuaeth o'r Iseldirwyr a'r Portiwgaliaid yn ynysoedd India'r Dwyrain, gan gynnwys gwrthdaro arfog. Ym 1623, lladdwyd 10 o asiantau'r cwmni gan luoedd Cwmni Iseldiraidd India'r Dwyrain (VOC) yn Amboyna, yn ynysoedd Maluku, a gwaharddwyd, ac o ganlyniad, penderfynodd cyfarwyddwyr y cwmni i ildio'r fasnach yn Ynysoedd y Sbeisys i'r VOC, ac i ganolbwyntio ar fasnachu cotwm, indigo, tsints, a solpitar yn India. Cododd Francis Day gaer i'r cwmni ar safle Madras, ar brydles tir gan Ymerodraeth Vijayanagara, ym 1634.[3]

Yn y 1620au dechreuodd y cwmni ddefnyddio llafur gorfodol a chludo caethweision i'w hamddiffynfeydd a gorsafau masnachu ar draws Cefnfor India, yn ogystal ag ynys Saint Helena yn ne Cefnfor yr Iwerydd. Daeth y mwyafrif o'r caethweision o Ddwyrain Affrica—yn enwedig Mosambic a Madagasgar—a chawsant eu cludo yn bennaf i eiddo'r cwmni yn India'r Dwyrain ac India; daeth rhai ohonynt o India'r Dwyrain neu'r fasnach gaethweision yng Ngorllewin Affrica. Bu rhan y cwmni yn y fasnach gaethweision ar ei hanterth o'r 1730au hyd at ganol y ganrif, a daeth i ben yn y 1770au.[4]

Wrth i'r galw am nwyddau gotwm ostwng yng nghanol y 18g, daeth y fasnach de, a gafodd ei fewnforio o Tsieina, yn fwyfwy pwysig i Gwmni India'r Dwyrain. Yn nechrau'r 19g cafodd opiwm ei allforio yn anghyfreithlon i Tsieina gan y cwmni er mwyn ariannu'r fasnach de. Arweiniodd gwrthwynebiad y Tsieineaid at y Rhyfel Opiwm Cyntaf (1839–42), ac yn sgil buddugoliaeth y Prydeinwyr, ehangwyd hawliau masnach y cwmni yn Tsieina.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. William Dalrymple, The Anarchy: The Relentless Rise of the East India Company (Llundain: Bloomsbury, 2019).
  2. Dalrymple, The Anarchy (2019), t. 20.
  3. Dalrymple, The Anarchy (2019), t. 21.
  4. (Saesneg) East India Company. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Gorffennaf 2022.