Armada Sbaen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Invincible Armada.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol llynges Edit this on Wikidata
Daeth i ben Awst 1588 Edit this on Wikidata
Rhan o Rhyfel 1585-1604 rhwng Lloegr a Sbaen Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu 25 Ebrill 1588 Edit this on Wikidata
Lleoliad Môr Udd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Fflyd Sbaenaidd o 130 o longau oedd Armada Sbaen a hwyliodd a Coruña ddiwedd mis Mai 1588, dan orchymyn y Dug Medina Sidonia, gyda'r pwrpas o hebrwng byddin o Fflandrys i oresgyn Lloegr. Y nod oedd dymchwel y Frenhines Elisabeth I a phrotestaniaeth yn Lloegr, atal ymyrraeth Lloegr yn Iseldiroedd Sbaen ac atal y niwed a achoswyd gan longau preifat o Loegr a'r Iseldiroedd a oedd yn ymyrryd â buddiannau Sbaen yn yr America. Fodd bynnag, gorchfygwyd yr Armada yn y pen draw gan Lynges Brenhiniaeth Lloegr.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr her mwyaf bygythiol o dramor a wynebodd Elisabeth yn ystod ei theyrnasiad oedd yr Armada. Roedd yr Armada yn fflyd o longau Sbaenaidd a hwyliodd i Loegr ym 1588 o dan arweiniad Medina Sidonia gyda’r bwriad i ddiorseddu y frenhines Brotestannaidd, Elisabeth I.

Dechreuodd y berthynas rhwng Lloegr a Sbaen waethygu tua chanol y 16eg ganrif. Nid oedd y ffaith i Elisabeth droi ei theyrnas yn wlad Brotestannaidd wedi iddi ddod i’r orsedd ym 1559 wrth fodd Felipe II, brenin Sbaen. Roedd Sbaen yn wlad Gatholig falch ac nid oedd Felipe'n hoff o syniadau Protestannaidd Elisabeth. Roedd yn benderfynol o adfer y ffydd Gatholig yn Lloegr unwaith eto, fel yn adeg teyrnasiad ei wraig, Mari, brenhines yr Alban. Drwy wneud hyn byddai’n medru troi Lloegr yn ‘wlad lloeren’ a fyddai’n rhan o’i Ymerodraeth Gatholig. Cythruddwyd Felipe gan benderfyniad haerllug Elisabeth i ddienyddio brenhines Gatholig, sef Mari, Brenhines yr Alban yn 1587 a gwelai hyn fel gweithred oedd yn dangos diffyg parch at Gatholigiaeth. Roedd Elisabeth wedi ei gynddeiriogi hefyd oherwydd gwrthododd ei briodi ac roedd yn cefnogi Protestaniaid yn yr Iseldiroedd oedd eisiau torri’n rhydd o Ymerodraeth Sbaen Gatholig. Arweiniodd anfodlonrwydd y Protestaniaid at Wrthryfel yr Iseldiroedd yn y 1570au a phan lofruddiwyd arweinydd y gwrthryfelwyr, sef Wiliam, Tywysog Orange, ym 1584, anfonodd Elisabeth fyddin o 7,600 draw i’r Iseldiroedd i helpu’r gwrthryfelwyr Protestannaidd. Gwelai Felipe hyn fel arwydd clir bod Elisabeth yn cyhoeddi rhyfel rhwng Lloegr a Sbaen.[1] Roedd Sbaen yn Ymerodraeth bwerus iawn yn y 16eg ganrif gyda’i phŵer tiriogaethol yn ymestyn ar draws llawer o orllewin Ewrop a’r Byd Newydd.[2] Teimlai Felipe hefyd bod awdurdod morwrol Sbaen ar y môr yn cael ei herio gan forwyr Teyrnas Lloegr, fel Francis Drake, oedd yn ymosod ar longau trysor Sbaen wrth iddynt ddychwelyd o dde America yn y Byd Newydd. Ym 1587 lansiwyd cyrch lwyddiannus gan Drake ar borthladd Cadiz, gan ddinistrio’r fflyd Sbaenaidd o longau rhyfel oedd wedi eu hangori yno. Rhoddai Elisabeth ei sêl bendith i’r cyrchoedd hyn a gwobrwyo menter eu hanturiaethwyr gyda theitlau a statws.[1]

Yr Armada[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr Armada ar arfordir Lloegr

Ar ôl blynyddoedd o densiwn penderfynodd Felipe ymosod ar Loegr gyda’i lynges, Yr Armada. Roedd Yr Armada yn lynges bwerus iawn, gyda 122 o longau a thua 30,000 o filwyr a morwyr ar fwrdd y llongau yn barod i ymosod. Ar Gorffennaf 12, 1588 hwyliodd fflyd o longau’r Armada Sbaenaidd ar draws y Sianel o Ffrainc tuag at Loegr ac yn ôl cynllun y Sbaenwyr byddai fflyd o longau Sbaenaidd, dan arweiniad Dug Parma, yn dod draw o’r Iseldiroedd i gynorthwyo’r Armada gyda’r goresgyniad. Roedd gan Elisabeth nifer o forwyr profiadol, yn eu plith, Francis Drake, Martin Frobisher, John Hawkins a’r Arglwydd Howard o Effingham. Yn ffodus i’r Saeson, penderfynodd y Sbaenwyr ymosod yng nghanol stormydd a gwyntoedd cryfion. Ynghyd â’r stormydd, defnyddiodd Francis Drake, rheolwr Llynges Lloegr, tacteg ble'r anfonwyd ‘llongau-tân’ i ganol yr Armada, a golygodd hyn y bu'n rhaid i galiynau Sbaen ffoi i Fôr y Gogledd ar Orffennaf 29, ac wedi cael eu gwasgaru i ganol tywydd garw.[3]

Chwalwyd yr Armada a hwyliodd gweddillion yr Armada nôl i Sbaen, gyda llawer o’r llongau yn cael eu colli ar hyd arfordir Iwerddon. Roedd rhai wedi ceisio mynd o amgylch arfordir Gogledd yr Alban a hwylio drwy Môr y Gogledd ac yna nôl ar hyd arfordir gorllewinol Iwerddon i gyfeiriad y de. Yn ddiarwybod iddynt bod yr Armada wedi dioddef yr anffawd yma, casglwyd ynghyd milisia Lloegr yn barod ar gyfer amddiffyn y deyrnas o dan arweiniad Iarll Caerlŷr. Gwahoddodd Elisabeth i arolygu eu lluoedd yn Tilbury yn Essex ar Awst 8. Gan wisgo brestblad (breastplate) arian dros ffrog melfed wen, traddododd Elisabeth un o’i anerchiadau mwyaf enwog i’r lluoedd oedd wedi crynhoi o’i blaen:

Fy mhobl annwyl...Gwyddaf fod gennym gorff gwan ac eiddil menyw, ond mae gennyf galon a stumog brenin, a hwnnw’n Frenin Lloegr hefyd, ac sy’n wfftio’n ddirmygus at Parma neu Sbaen, neu unrhyw Dywysog yn Ewrop a feiddia oresgyn ffiniau fy nheyrnas.[4]

Pan na ddaeth unrhyw ymosodiad bu llawenydd mawr a gorfoledd ar draws teyrnas Elisabeth. Roedd ysblander gorymdaith buddugoliaethus Elisabeth I ar ei ffordd draw i wasanaeth o ddiolch yn Eglwys Gadeiriol Sant Pawl, Llundain, yn cyfateb i sbectacl achlysur ei choroniad.

Roedd Elisabeth felly wedi llwyddo i wrthsefyll yr ymosodiad gyda Armada Sbaen yn colli 44 o’i llongau allan o gyfanswm o 130. Bu trechu yr Armada yn fuddugoliaeth bwysig o ran propaganda i Elisabeth fel brenhines ac i Lloegr fel teyrnas Brotestannaidd. Gwelai’r Saeson eu buddugoliaeth fel symbol o ffafr Duw a sancteiddrwydd y deyrnas o dan arweinyddiaeth y frenhines wyryf. Ond er bod y goresgyniad wedi ei ddryllio, roedd y rhyfel ehangach rhwng Lloegr a Sbaen yn parhau. Gan fod y Sbaenwyr yn parhau i reoli taleithiau deheuol yr Iseldiroedd roedd y bygythiad o oresgyniad yn dal i fodoli.

Ym 1589, blwyddyn wedi’r Armada Sbaenaidd, anfonodd Elisabeth yr Armada Seisnig neu’r Gwrth-Armada i Sbaen, gyda 23,375 o ddynion a 150 o longau, o dan arweiniad Syr Francis Drake fel llyngesydd a Syr John Norreys fel cadfridog. Cafodd y Saeson golledion enbyd, gyda 11,000-15,000 yn cael eu lladd, anafu neu’n marw oherwydd afiechyd.

Suddwyd neu gipiwyd 40 o longau. Collwyd y manteision roedd Lloegr wedi eu hennill drwy ddinsitrio yr Armada Sbaenaidd ym 1588 ac roedd buddugoliaeth y Sbaenwyr ym 1589 yn dynodi adferiad ym mhŵer milwrol Felipe a wnaeth barhau am y ddegawd nesaf.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 "Rhesymau pam anfonwyd yr Armada - Armada Sbaen - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-30.
  2. "A summary of the Spanish Armada - The Spanish Armada - KS3 History Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-30.
  3. Black, J. B (1945). The reign of Elizabeth, 1558-1603 (yn Saesneg). Oxford: Clarendon Press. t. 349. OCLC 5077207.
  4. Neale, John Ernest, Sir, 1890-1975. (1998). Queen Elizabeth I. London: Pimlico. tt. 297–298. ISBN 0-7126-6611-7. OCLC 43054757.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  5. Black, J. B (1945). The reign of Elizabeth, 1558-1603 (yn English). Oxford: Clarendon Press. t. 359. OCLC 5077207.CS1 maint: unrecognized language (link)