William Baffin
Jump to navigation
Jump to search
William Baffin | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
1584 ![]() Llundain ![]() |
Bu farw |
23 Ionawr 1622 ![]() Achos: anaf balistig ![]() Hormuz Island ![]() |
Dinasyddiaeth |
Teyrnas Lloegr ![]() |
Galwedigaeth |
fforiwr, mapiwr ![]() |
Morwr o Sais oedd William Baffin (1584 - 23 Ionawr, 1622), yr enwir Ynys Baffin a Bae Baffin ar ei ôl.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd Baffin ei eni yn Llundain, yn ôl pob tebyg, yn 1584.
O 1612 hyd 1616 bu'n beilot ar gyfres o fordeithiau i chwilio am Dramwyfa'r Gogledd-orllewin (y Northwest Passage) yn yr Arctig i geisio ffordd trwodd i'r Cefnfor Tawel. Y pwysicaf o'r mordeithiau hynny oedd y rhai dan arweiniad Robert Bylot yn y Discovery, a aeth â nhw i Gulfor Hudson (1615) ac ymlaen i ddarganfod Bae Baffin (1616). Dyma'r fforio pwysicaf yn yr ardal hyd ddechrau'r 19g pan gadarnhaodd y fforiwr Syr John Ross y darganfyddiadau yn 1818.
Yn ddiweddarach, aeth Baffin i wneud arolwg o'r Môr Coch (1616-1621). Cafodd ei ladd yng ngwarchae Ormuz yn 1622.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]