Sumatera

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Sumatera
Nepenthes junghuhnii distribution.png
Mathynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth50,365,538 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser Gorllewin Indonesia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Sunda Fawr Edit this on Wikidata
GwladIndonesia Edit this on Wikidata
Arwynebedd473,481 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr12 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor India Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau0.000000°N 102°E Edit this on Wikidata
ID-SM Edit this on Wikidata
Hyd1,700 cilometr Edit this on Wikidata
Llyn Toba

Sumatera,[1] neu Sumatra, sy'n rhan o Indonesia, yw'r chweched ynys yn y byd o ran maint (neu'r seithfed os ystyrir Awstralia yn ynys), tua 470.000 km².

Mae Sumatera yn ynys hir, yn rhedeg o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain, gyda'r cyhydedd tua'r canol. Yng ngorllewin yr ynys mae Mynyddoedd Barisan ac yn y dwyrain mae tir isel, corsiog. I'r de-ddwyrain mae ynys Jawa, a dim ond Culfor Sunda rhyngddynt. Mae Gorynys Malaya i'r gogledd, gyda Culfor Malaca yn eu gwahanu. I'r dwyrain mae ynys Borneo.

Ar un adeg roedd y rhan fywaf o'r ynys wedi ei gorchuddio gan goedwig drofannol, ond erbyn hyn mae llawer o'r goedwig wedi ei dinistrio. Mae hyn wedi peryglu anifeiliaid megis yr orangutan, y tapir a'r teigr, a rhai planhigion anarferol megis y rafflesia.

Mae'r ynys, a'r ynysoedd bach o'i chwmpas, wedi ei rhannu yn nifer o daleithiau:

Mae mudiad sy'n ymladd am annibyniaeth oddi wrth Indonesia yn Aceh, yn rhan mwyaf gogleddol yr ynys, er bod cytundeb rhwng y mudiad a llywodraeth Indonesia wedi sicrhau heddwch yn ddiweddar.

Nid yw'r ynys mor boblog a Jawa, gyda tua 40 miliwn o bobl ar ynys tua maint Yr Almaen. Y prif ddinasoedd yw Medan a Palembang. Ceir nifer o wahanol grwpiau ethnig, yn cynnwys y Minangkabau a'r Batak. Dilynwyr Islam yw'r rhan fwyaf o boblogaeth yr ynys, ond mae llawer o'r Batak yn Gristionogion.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 104.