Borneo

Oddi ar Wicipedia
Borneo
Mathynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth18,590,000 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysfor Maleia Edit this on Wikidata
GwladBaner Indonesia Indonesia
Baner Maleisia Maleisia
Baner Brwnei Brwnei
Arwynebedd748,168 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr4,095 metr, 113 metr Edit this on Wikidata
GerllawY Cefnfor Tawel, Sulu Sea, Môr De Tsieina, Y Môr Java, Môr Celebes, Makassar Strait Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau1°S 114°E Edit this on Wikidata
Hyd1,366 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Mae Borneo yn ynys yn ne-ddwyrain Asia. Gydag arwynebedd o 743,330 km² (287,000 milltir sgwar), hi yw'r drydedd ynys yn y byd o ran maint. Mae rhan ddeheuol a chanol yr ynys yn perthyn i Indonesia, dan yr enw Kalimantan. Yn Indonesia defnyddir "Kalimantan" am yr ynys i gyd. Rhennir y rhan ogleddol rhwng Maleisia a gwladwriaeth annibynnol Brwnei.

Ynys Borneo. Melyn yn donodi rhannau sy'n perthyn i Indonesia, brown i Maleisia, gwyrdd i Brwnei.

I'r gorllewin o Borneo mae Rhagynys Malaya ac ynys Sumatera. I'r de mae ynys Jawa ac i'r dwyrain Sulawesi. Y mynydd uchaf yw Mynydd Kinabalu yn Sabah, Maleisia, sy'n 4,095 m (13,435 troedfedd) o uchder.

Rhennir rhan Indonesia o'r ynys yn bedair talaith: Dwyrain Kalimantan, De Kalimantan, Gorllewin Kalimantan a Canolbarth Kalimantan. Rhennir rhan Maleisia yn ddwy dalaith, Sabah a Sarawak.

Mae cyfoeth eithriadol o fywyd gwyllt ar Borneo, er enghraifft 15,000 o rywogaethau o blanhigion blodeuog, yn cynnwys 3,000 o rywogaethau o goeden, 221 rhywogaeth o famal a 420 rhywogaeth o aderyn. Ar un adeg roedd fforest law drofannol yn gorchuddio rhan fawr o'r ynys, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae llawer o'r fforest yma wedi diflannu. Mae poblogaeth ddynol yr ynys yn cynnwys tua 30 grŵp ethnig.