Batak

Oddi ar Wicipedia
Batak
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
MathIndonesiaid Edit this on Wikidata
Poblogaeth7,400,000 Edit this on Wikidata
LleoliadGogledd Sumatra Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAngkola Batak, Karo Batak, Mandailing Batak, Pakpak Batak, Simalungun Batak, Toba Batak Edit this on Wikidata
GwladwriaethIndonesia Edit this on Wikidata
RhanbarthGogledd Sumatra Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Grŵp ethnig, neu nifer o grwpiau ethnig yn perthyn i'w gilydd, yng ngogledd ynys Sumatera yn Indonesia yw'r Batak. Maent yn byw yng nghanolbarth rhan ogleddol yr ynys, gyda chanolfan o amgylch Llyn Toba ac Ynys Samosir. Mae tua 6 miliwn ohonynt i gyd.

Cyn iddynt ddod dan reolaeth Ymerodraeth yr Iseldiroedd, roedd y Batak yn enwog fel rhyfelwyr ffyrnig ac fel canibaliaid. Trowyd llawer ohonynt at Gristnogaeth gan genhadon o'r Iseldiroedd a'r Almaen, a'r eglwys Batak yw eglwys Gristionogol fwyaf Indonesia. Mae eraill o'r Batak yn ddilynwyr Islam. Maent yn siarad nifer o ieithoedd sydd a pherthynas agos a'i gilydd.

Tŷ traddodiadol Batak