Ynys Samosir

Oddi ar Wicipedia
Ynys Samosir
Mathynys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSamosir Edit this on Wikidata
GwladBaner Indonesia Indonesia
Arwynebedd630 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,601 metr Edit this on Wikidata
GerllawLlyn Toba Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau2.58°N 98.82°E Edit this on Wikidata
Map

Ynys yng nghanol Llyn Toba yn Sumatra, Indonesia yw Ynys Samosir (Indoneseg: Palaw Samosir).

Gydag arwynebedd o 630 km², Samosir yw'r bumed fwyaf ymysg ynysoedd mewn llynnoedd y byd, a'r ynys fwyaf sydd o fewn ynys arall. Ceir nifer o bentrefi arni: Tuk Tuk, Tomok, Ambarita, Simanindo a Panguruan. Ystyrir yr ynys yn ganolbwynt diwylliant y Batak, ac mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristaid.