Chennai
| Math | y ddinas fwyaf, dinas â miliynau o drigolion, prifddinas y dalaith, business cluster, endid tiriogaethol gweinyddol |
|---|---|
| Poblogaeth | 6,599,000 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | M. K. Stalin |
| Cylchfa amser | UTC+05:30 |
| Gefeilldref/i | |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Tamileg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Chennai district |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 426,830,040 m² |
| Uwch y môr | 6 metr |
| Cyfesurynnau | 13.0825°N 80.275°E |
| Cod post | 600... |
| Pennaeth y Llywodraeth | M. K. Stalin |
![]() | |

Prifddinas talaith Tamil Nadu, yn ne-ddwyrain India, yw Chennai (hen enw: Madras), sy'n ganolfan weinyddol Rhanbarth Chennai. Er mai'r enw Tamil Chennai yw'r enw swyddogol heddiw mae llawer o bobl yn y ddinas ac yn India ei hun yn dal i ddefnyddio'r hen enw adnabyddus, Madras. Ei phoblogaeth yw tua 6 miliwn (1999).
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae Madras yn ddinas a phorth prysur ar Arfordir Coromandel ar Fae Bengal. Cafodd ei sefydlu yn 1639 gan Gwmni Prydeinig Dwyrain India ar dir a roddwyd gan Raja Chandragiri, yr olaf o reolwyr Vijayanagar Hampi. Tyfodd y ddinas o gwmpas Caer St Siôr sydd bellach yn gartref i swyddfeydd y llywodraeth daleithiol.
Sefydlwyd Prifysgol Madras yn 1857.
Economi a diwylliant
[golygu | golygu cod]Mae Chennai yn ganolfan masnach a chludiant. Chennai yw prif ganolfan adeiladu ceir India; fe'i gelwir weithiau "Detroit India" o'r herwydd. Dim ond ychydig o atyniadau hanesyddol sydd yn y ddinas ond mae ganddi ddiwylliant bywiog a diddorol.
Un o ganolfannau busnes pwysicaf Chennai yw Parry's Corner, pencadlys cwmni a sefydlwyd gan y Cymro Thomas Parry ar ddiwedd y 18g.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Ashtalakshmi Kovil
- Parry's Corner
- Eglwys gadeiriol
- Gorsaf Central
- Neuadd Victoria
- Ravishwarar
- Stadiwm Jawaharlal Nehru
Enwogion
[golygu | golygu cod]- R. K. Narayan (1906-2001), awdur
- Padma Lakshmi (g. 1970), actores
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol llywodraeth Rhanbarth Chennai Archifwyd 2011-04-29 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan swyddogol Corfforaeth Chennai
- Ynglŷn â Chennai
- Dinas Chennai
- Hanes Madras
- Erthyglau'r hanesydd S. Muthiah ar Chennai, gyhoeddwyd yn The Hindu Archifwyd 2014-07-20 yn y Peiriant Wayback
- Daearyddiaeth Chennai Archifwyd 2007-03-14 yn y Peiriant Wayback
- Tywydd Chennai heddiw
