Chennai

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Chennai
Chennai train station.jpg
TamilNadu Logo.svg
Mathdinas, dinas fawr, dinas â miliynau o drigolion, prifddinas y dalaith, business cluster Edit this on Wikidata
Poblogaeth10,265,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1639 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethK. Palaniswami Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:30 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Tamileg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirChennai district Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd426,830,040 m² Edit this on Wikidata
Uwch y môr6 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau13.0825°N 80.275°E Edit this on Wikidata
Cod post600... Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethK. Palaniswami Edit this on Wikidata
Gorsaf Central, Chennai

Prifddinas talaith Tamil Nadu, yn ne-ddwyrain India, yw Chennai (hen enw: Madras), sy'n ganolfan weinyddol Rhanbarth Chennai. Er mai'r enw Tamil Chennai yw'r enw swyddogol heddiw mae llawer o bobl yn y ddinas ac yn India ei hun yn dal i ddefnyddio'r hen enw adnabyddus, Madras. Ei phoblogaeth yw tua 6 miliwn (1999).

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Madras yn ddinas a phorth prysur ar Arfordir Coromandel ar Fae Bengal. Cafodd ei sefydlu yn 1639 gan Gwmni Prydeinig Dwyrain India ar dir a roddwyd gan Raja Chandragiri, yr olaf o reolwyr Vijayanagar Hampi. Tyfodd y ddinas o gwmpas Caer St Siôr sydd bellach yn gartref i swyddfeydd y llywodraeth daleithiol.

Sefydlwyd Prifysgol Madras yn 1857.

Economi a diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Chennai yn ganolfan masnach a chludiant. Chennai yw prif ganolfan adeiladu ceir India; fe'i gelwir weithiau "Detroit India" o'r herwydd. Dim ond ychydig o atyniadau hanesyddol sydd yn y ddinas ond mae ganddi ddiwylliant bywiog a diddorol.

Un o ganolfannau busnes pwysicaf Chennai yw Parry's Corner, pencadlys cwmni a sefydlwyd gan y Cymro Thomas Parry ar ddiwedd y 18g.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]