Kuala Lumpur
Gwedd
| Arwyddair | Progress and Prosper |
|---|---|
| Math | tiriogaeth ffederal Maleisia, dinas fawr, dinas, y ddinas fwyaf, dinas global, prifddinas ffederal |
| Poblogaeth | 9,000,280 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Kamarulzaman Mat Salleh |
| Cylchfa amser | UTC+08:00 |
| Gefeilldref/i | Mashhad, Karachi, Isfahan, P'yŏngyang, Ankara, Shiraz, Llundain, Dubai, Delhi Newydd, Delhi, Jakarta, Casablanca, Dinas Melaka, Chennai |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Maleisia |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 243.65 km² |
| Uwch y môr | 66 metr, 50 metr |
| Gerllaw | Afon Gombak, Afon Klang |
| Yn ffinio gyda | Selangor |
| Cyfesurynnau | 3.1478°N 101.6953°E |
| Cod post | 50000–59999 |
| MY-14 | |
| Pennaeth y Llywodraeth | Kamarulzaman Mat Salleh |
![]() | |

Prifddinas Maleisia yw Kuala Lumpur, a dalfyrrir yn aml i KL yn lleol. Saif gerllaw cymer afonydd Gombak a Kelang, ac mae'r enw mewn Maleieg yn golygu "cymer mwdlyd". Mae'r boblogaeth bron yn ddwy filiwn.
Dechreuodd Kuala Lumpur dyfu tua 1860, oherwydd presenoldeb tun yn yr ardal, a daeth yn brifddinas erbyn 1896. Adeilad enwocaf y ddinas yw'r Petronas Twin Towers, tŵr dwbl 452 medr o uchder. Am gyfnod, y rhain oedd adeilad uchaf y byd, hyd nes i dŵr Burj Dubai gael ei adeiladu. Yn ystod cyfnod Mahathir Mohamad fel Prif Weinidog o 1981 i 2003, mae Kuala Lumpur wedi datblygu'n gyflym.
Mae Kuala Lumpur yn ddinas amlddiwylliannol, gyda dylanwadau Tsieineaidd ac Indiaidd cryf.

Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Amgueddfa Genedlaethol
- Canolfan Islamaidd
- Eglwys Gadeiriol Sant Ioan
- Gorsaf Reilffordd
- Petronas Twin Towers
- Planetarium
- Prifysgol Malaya
- Teml Thean Hou
