Isfahan
| Math | dinas Iran, dinas fawr, y ddinas fwyaf, metropolis, dinas global |
|---|---|
| Poblogaeth | 1,961,260 |
| Pennaeth llywodraeth | Ali Qasemzadeh |
| Cylchfa amser | UTC+03:30 |
| Gefeilldref/i | Baalbek, Barcelona, Kathmandu, Cairo, Dakar, Fflorens, Freiburg im Breisgau, La Habana, Hyderabad, Iași, Istanbul, Kuala Lumpur, Dinas Coweit, Lahore, Fenis, Xi'an, Yerevan, St Petersburg, Maracaibo |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Perseg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Central District |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 493.82 km² |
| Uwch y môr | 1,574 metr |
| Gerllaw | Zayandeh River |
| Cyfesurynnau | 32.6525°N 51.675°E |
| Cod post | 811 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Islamic City Council of Isfahan |
| Pennaeth y Llywodraeth | Ali Qasemzadeh |
![]() | |

Dinas yng nghanolbarth Iran yw Isfahan neu Esfahan (Perseg: اصفهان). Gyda phoblogaeth o 2.54 miliwn, hi yw'r drydydd ddinas fwyaf yn Iran, ac mae'n brifddinas rhanbarth Isfahan. Saif tua 340 km i'r de o Tehran ar lan ogleddol afon Zayandeh Rud.
Mae Isfahan yn hen ddinas, a adwaenid fel Aspadana yn y cyfnod clasurol. Roedd yn brifddinas rhanbarth Persia Uchaf o ymerodraeth Parthia. Alltudiwyd Iddewon yno yn ystod y goncwest Fabilonaidd. Daeth y ddinas yn bwysig fel un o'r dinasoedd ar Ffordd y Sidan, y rhwydwaith o lwybrau masnach rhwng Tsieina a'r Môr Canoldir. Cipiwyd y ddinas gan yr Arabiaid yn 643.
Gwnaeth Malik Sjah I hi yn brifddinas yn 1051, ac yn ystod y cyfnod yma bu'r meddyg ac athronydd Avicenna yn byw yma. Cipiwyd y ddinas gan Timur yn 1387, a lladdwyd tua 70,000 o'r trigolion wedi iddynt wrthryfela yn ei erbyn. Daeth yn brifddinas Persia eto yn 1598, ac yn y cyfnod nesaf dan Abbas I adeiladwyd llawer o adeiladau enwocaf y ddinas, megis y Meidan Emam. Cipiwyd y ddinas gan yr Afghaniaid yn 1722, a dinistriwyd rhan helaeth ohoni.
