Timur

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Am yr ynys, gweler Timor.
Timur
Tamerlan.jpg
Ganwyd 9 Ebrill 1336 Edit this on Wikidata
Shahrisabz Edit this on Wikidata
Bu farw 19 Chwefror 1405 Edit this on Wikidata (68 oed)
Shymkent Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Twrci Edit this on Wikidata
Galwedigaeth warrior Edit this on Wikidata
Tad Taragay Edit this on Wikidata
Priod Saray Malik Katun, Aljaya Khatun Agha, Uljay-Turkan aga, Chelpanov-Mulk Aga, Dilshad aga Edit this on Wikidata
Plant Shahrukh, Miran Shah, Jahangir Mirza ibn Timur, Umar Shaikh, Akia Beghi Edit this on Wikidata
Llinach Timurid dynasty Edit this on Wikidata

Arweinydd milwrol a choncwerwr Twrco-Mongolaidd oedd Timur neu Temür, weithiau , Timur Lang, Timur Lenk neu , Tamerlane, (Perseg: Timür-i lang, “Timur y Cloff”) 10 Ebrill 1336 - 17 Chwefror 1405.

Credir iddo gael ei eni yn Kesh, Transoxiana, yng nghanolbarth Asia. Dechreuodd trwy uno llwythau Twrco-Mongolaidd yr ardal yma, ac aeth ymlaen i goncro rhan helaeth o Ewrasia, gan adeiladu ymerodraeth a'i phrifddinas yn Samarkand.

Rhwng 1370 a 1372, arweiniodd ddwy ymgyrch i’r gogledd o fynyddoedd y T'ien Shan. Yn 1381 cipiodd Herat (yn Affganistan heddiw). Rhwng 1382 a 1405 cyhaeddodd ei fyddinoedd cyn belled a Delhi a Moscow, gan gipio tiriogaethau yn ymestyn o fynyddoedd y T'ian Shan yng nghanolbarth Asia i fynyddoedd Taurus yn Anatolia. Cipiodd ddinas Baghdad yn 1401. Yng ngwanwyn 1402, gorchfygodd yr Ottomaniaid mewn brwydr gerllaw Ankara, gan gymeryd y Swltan Bāyāzīd I yn garcharor.Bu farw o afiechyd yn Otrar, tra’n paratoi am ymgyrch yn erbyn Tsieina.

Ystyrir ef yn arwr cenedlaethol yn Wsbecistan.