Mynyddoedd Taurus
Gwedd
| Math | cadwyn o fynyddoedd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | llain Alpid |
| Gwlad | Twrci |
| Uwch y môr | 3,756 metr |
| Cyfesurynnau | 36.9964°N 33.0019°E |
| Hyd | 600 cilometr |
![]() | |
| Deunydd | craig waddodol |
Mynyddoedd yn ne-orllewin Asia yw Mynyddoedd Taurus. Ffurfiant gadwyn o'r de-orllewin i'r gogledd-ddwyrain ar draws rhan ddeheuol Anatolia, Twrci.
Mae afon Ewffrates yn tarddu yma ac yn llifo i mewn i Syria. Gelwir y rhan uchaf o'r gadwyn yn Aladağ; y copa uchaf yw Demirkazık (Aladağlar), sydd bron 4,000 medr uwch lefel y môr.
Roedd yr ardal yn bwysig yn ystod y cyfnod neolithig, pan oedd obsidian yn cael ei fwyngloddio yma. Gwnaed darganfyddiadau archaeolegol pwysig yn Çatal Hüyük gerllaw. Ger Kestel mae safle archaeolegol o Oes yr Efydd, lle roedd tun yn cael ei fwyngloddio.

