Affganistan
![]() | |
![]() | |
Math |
gwladwriaeth sofran, Gweriniaeth Islamaidd, gwlad dirgaeedig, gwlad ![]() |
---|---|
| |
Prifddinas |
Kabul ![]() |
Poblogaeth |
36,643,815 ![]() |
Sefydlwyd | 1709 |
Anthem |
Anthem Genedlaethol Affganistan ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Abdullah Abdullah ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+04:30 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Pashto, Dari, Turkmen, Wsbeceg, Arabeg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
652,230 km² ![]() |
Yn ffinio gyda |
Pacistan, Iran, Tyrcmenistan, Wsbecistan, Tajicistan, Gweriniaeth Pobl Tsieina ![]() |
Cyfesurynnau |
34°N 66°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
Llywodraeth Affganistan ![]() |
Corff deddfwriaethol |
Cynulliad Cenedlaethol Affganistan ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth |
Arlywydd Affganistan ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth |
Ashraf Ghani Ahmadzai ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Prif Weithredwr Affganistan ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Abdullah Abdullah ![]() |
![]() | |
Crefydd/Enwad |
Islam ![]() |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) |
20,815 million US$ ![]() |
CMC y pen |
550 US$ ![]() |
Arian |
Afghan afghani ![]() |
Canran y diwaith |
9 %, 8.5 % ![]() |
Cyfartaledd plant |
4.843 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol |
0.498 ![]() |
Gwlad dirgaeedig yng Nghanolbarth Asia yw Gweriniaeth Islamaidd Affganistan neu Affganistan (hefyd Affganistán). Mae'r wlad yn ffinio ag Iran, Pacistan, Tyrcmenistan, Wsbecistan, Tajicistan a gorllewin eithaf Tsieina. Ei phrifddinas yw Kabul.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Affganistan yn wlad tirgaeedig o wastadeddau uchel a mynyddoedd. Mae cadwyn fawr yr Hindu Kush yn cyrraedd dros 7,000 m o uchder yn Tirich Mir, ar y ffin â Phacistan yn y gogledd-ddwyrain. Ceir amrywiadau mawr mewn hinsawdd mewn lle cymharol gyfyngedig, yn amrywio o hinsoddau sych ac isdrofannol i hinsawdd alpaidd eithafol yn y mynyddoedd. Mae'r dinasoedd a threfi pwysig yn cynnwys y brifddinas Kabul a thref hanesyddol Ghazni yn y canolbarth, Herat a Kandahar yn y gorllewin, Faizabad, Konduz, Mazar-i-Sharif a Maimana yn y gogledd, a Jalalabad yn y dwyrain. Mae dŵr yn gymharol brin yn y wlad. Yr unig afonydd o bwys yw Afon Oxus, sy'n rhedeg ar hyd y ffin ogleddol; afon Hari Rud yn y canolbarth a'r gorllewin, Afon Helmand (Rud-e Helmand) yn y de-orllewin, sy'n rhedeg dros y ffin i Iran i gael ei llyncu yng nghorstir hallt Daryacheh-ye Sistan; ac Afon Kabul (Darya-ye Kabul) sy'n rhedeg o ardal Bwlch Khyber i gyfeiriad Kabul.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Symudodd llwythi Iranaidd i'r ardal yn ystod yr ail fileniwm Cyn Crist. Mae rheolaeth ar y wlad wedi newid sawl gwaith. Am ganrifoedd roedd yn ganolbwynt Bactria, teyrnas hynafol a oedd yn ymestyn rhwng Persia a Chanolbarth Asia ac India. Am gyfnod hir bu'n rhan o ymerodraeth Persia. Goresgynnodd Alecsander Mawr rannau o'r wlad ar ei daith i'r dwyrain. Am gyfnod o rai canrifoedd roedd y wlad yn ganolfan Fwdhaidd bwysig. Mae adfeilion Bamiyan yn dyst i hynny, ac yn cysylltu'r wlad â diwylliant Bwdhaidd Canolbarth Asia (gwerddon Turfan er enghraifft) a Tibet ar un llaw ac â dinasoedd Bwdhaidd Gandhara (gogledd-orllewin Pacistan heddiw) ar y llaw arall. Fe orchfygodd yr Arabiaid Bersia yn y 7g a meddiasant Affganistan yn ogystal. Fe'i gorchfygwyd gan y Mongoliaid yn y 13g, ac am gyfnod, dan reolwyr Ghazni, roedd Affganistan ei hun yn rheoli rhan sylweddol o ogledd-orllewin is-gyfandir India.
Sefydlwyd Emiraeth Affganistan yn 1747 ac yn ddiweddarach daeth dan ddylanwad Prydain Fawr. Am ganrif a rhagor roedd Affganistan yn ddarn gwerin gwyddbwyll yn y Gêm Fawr am reolaeth yng Nghanolbarth Asia rhwng Prydain a Rwsia. Ar ôl cyfnod dan reolaeth bell Brydeinig enillodd y wlad radd o annibyniaeth yn 1919 dan yr emir Amanullah Khan ac yn gyflawnach yn 1922 pan sefydlwyd Teyrnas Affganistan yn unol â Chytundeb Rawalpindi.
Yn 1973 datganiwyd gweriniaeth. Cafodd y rhyfel cartref hir rhwng 1979 a 1992 a phresenoldeb byddin Rwsia (hyd at 1989) effaith bellgyrhaeddol ar wleidyddiaeth y wlad. Yn y 1990au tyfodd dylanwad a grym y Taleban ffwndamentalaidd ac o 1994 hyd at 2001 rheolwyd rhan sylweddol o'r wlad ganddynt. Yn 2001 ymosododd lluoedd arfog UDA, gyda chymorth Cynghrair y Gogledd, ar y Taleban ac fe'u disodlwyd. Ers hynny mae llywodraeth ddemocrataidd wedi rheoli y rhan fwyaf o'r wlad, gyda chefnogaeth lluoedd NATO, ond erys y Taleban a'u cefnogwyr yn gryf yn y de a'r dwyrain.
Iaith a Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Affganistan yn wlad Islamaidd ers yr 8g ond yn y gorffenol bu'n ganolfan bwysig iawn yn hanes Zoroastriaeth a Bwdhaeth. Hyd at ddiwedd yr 20g roedd Nuristan, i'r gogledd o ddyffryn Jalalabad, yn wlad baganaidd led-annibynnol a elwid yn Kaffiristan (mae'r olaf o'r Kaffiriaid paganaidd yn byw dros y ffin yn nhalaith Chitral ym Mhacistan).
Ceir nifer o fosgiau hanesyddol yn Affganistan, yn cynnwys y Mosg Las ym Mazar-e-Sharif yn y gogledd, mosgiau hynafol dinas Herat yn y gorllewin ac adfeilion mosg a minaret enwog yn Ghazni. Y safle Bwdhaidd pwysicaf yw Bamiyan, yng nghanolbarth y wlad; yn anffodus dinistriwyd rhan sylweddol o'r cerfluniau hynafol o'r Bwdha gan y Taleban ar ddiwedd y 1990au.
Israniadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Ceir 34 talaith yn Affganistan, a adnabyddir yn lleol fel wilayats. Rhennir pob talaith yn ei thro yn ardaloedd.
Economi[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Affganistan yn un o wledydd tlotaf y byd. Mae'r mwyafrif o'r bobl yn gweithio ar y tir. Yn y dyffrynoedd a chymoedd mae rhwydweithiau dyfrhau yn galluogi amaethyddiaeth a thyfu coed ffrwythau i ffynu. Yn y mynyddoedd a'r gwastadeddau uchel bugeilio a chodi gwartheg a geifr yw asgwrn cefn yr economi leol. Mae tyfu cnydau opiwm yn bwysig yn yr ardaloedd gwledig ers canrifoedd ac mae canran uchel iawn o opiwm y byd yn dod o Affganistan. Mae nwyddau naturiol y wlad yn cynnwys glo, petroliwm a nwy naturiol a mwyngloddir lapis lazuli yn y gogledd, yn arbennig yn y Hindu Kush.
Mae'r rhyfela parhaol dros y degawdau diwethaf wedi dinistrio dros 65% o ffatrïoedd a safleoedd diwydiannol eraill y wlad ac mae'r economi heddiw mewn cyflwr bregus iawn ac yn ddibynnol ar gymorth ariannol tramor.