Panjshir
| Math | Taleithiau Affganistan |
|---|---|
| Prifddinas | Bazarak |
| Poblogaeth | 176,000 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | UTC+04:30 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Dari |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Affganistan |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 3,610 km² |
| Uwch y môr | 4,226 metr |
| Yn ffinio gyda | Baghlan, Nuristan Province, Laghman Province, Parwan Province, Kapisa, Takhar Province, Badakhshan |
| Cyfesurynnau | 35.4275°N 69.735°E |
| AF-PAN | |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | llywodraethwr |
![]() | |
Un o daleithiau Affganistan yw Panjshir (Dari/Pashto: پنجشیر) a leolir yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Crewyd yn 2004 fel talaith ar wahân i Parwan, ac fe'i enwir ar ôl Dyffryn Panshir. Mae'n ffinio â Baghlan a Takhar i'r gogledd, Badakhshan a Nuristan i'r dwyrain, Laghman a Kapisa i'r de, a Parwan i'r gorllewin. Rhennir y dalaith yn saith dosbarth gweinyddol, ac mae'n cynnwys rhyw 500 o bentrefi. Yn 2021 roedd ganddi boblogaeth oddeutu 173,000.[1] Bazarak, enw ar chwe phentref cyfagos, yw prifddinas daleithiol Panjshir.
Panjshir yw'r dalaith olaf i wrthsefyll ymgyrch ymosodol y Taleban yn 2021; ceir gwrthsafiad i'r Taleban hefyd yn rhannau o Baghlan. Arweinir Ffrynt y Gwrthsafiad Cenedlaethol, sydd wedi sefydlu mân-amddiffynfeydd o amgylch Dyffryn Panjshir, gan Ahmed Massoud.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Estimated Population of Afghanistan 2021-22" (PDF). National Statistic and Information Authority (NSIA). Ebrill 2021. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 29 Mehefin 2021. Cyrchwyd 4 Medi 2021.
| Taleithiau Affganistan | |
|---|---|
| Badakhshan | Badghis | Baghlan | Balkh | Bamiyan | Daykundi | Farah | Faryab | Ghazni | Ghor | Helmand | Herat | Jowzjan vJowzjan | Kabul | Kandahar | Kapisa | Khost | Kunar | Kunduz | Laghman | Lowgar | Nangarhar | Nimruz | Nurestan | Oruzgan | Paktia | Paktika | Panjshir | Parwan | Samangan | Sar-e Pol | Takhar | Wardak | Zabul | |
