Ceffyl

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ceffyl
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Perissodactyla
Teulu: Equidae
Genws: Equus
Rhywogaeth: E. caballus
Enw deuenwol
Equus caballus
Linnaeus, 1758
Fideo gan Gyfoeth Naturiol Cymru - yn dangos ceffylau gwedd yn gweithio mewn coedwig.
Poster 'Caseg Wineu-goch wedi crwydro...'; Pentre-Mawr, Abertawe, Medi 1818.

Mamal dof mawr yw ceffyl (Equus ferus caballus)[1] sy'n perthyn i deulu'r Equidae. Gelwir y fenyw yn 'gaseg', y gwryw yn 'stalwyn' neu'n 'farch' a'r ceffyl ifanc yn 'ebol'. Esblygodd dros gyfnod o 45 i 55 miliwn o flynyddoedd o fod yn greadur aml-garn i fod yn anifail uncarn cymharol fawr ei faint. Yr enw torfol yw 'gre o geffylau'.

Mae ceffylau wedi cael eu dofi, eu briodio a'u defnyddio gan bobl ers tua 4000 CC ar gyfer marchogaeth a thynnu cerbydau neu gerbydau rhyfel yn ogystal ag ar gyfer aradu mewn amaethyddiaeth. Heddiw, mae rasio ceffylau yn parhau'n boblogaidd iawn. Mewn rhai gweldydd, megir ceffylau am eu cig ac mae yfed llaeth caseg yn boblogaidd ym Mongolia. Mesurir ceffylau wrth y llaw.

Einioes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ddibynol ar y brid a'r amgylchedd, gall y ceffyl modern fyw i fod yn 25 neu'n 30 mlwydd oed. Mae eithriadau prin yn byw am 40 mlynedd neu ragor.[2] Cofnodwyd fod ceffyl o'r enw 'Old Billy]' yn y 19eg ganrif wedi byw am 62 o flynyddoedd[3] a chredir fod 'Sugar Puff' wedi byw am 56.[4]

Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir sawl brid o geffylau Cymreig, gan gynnwys y Cob Cymreig a'r Merlyn mynydd Cymreig. Yn y gorffennol, roedd y merlod hyn yn yn olygfa gyffredin ar fryniau Cymru, o Eryri i Frycheiniog. Erbyn heddiw ceir y canran mwyaf ohonynt yn Eryri, rhannau o ganolbarth Cymru a Bannau Brycheiniog. Amcangyfrifir fod tua 400-500 o ferlod mynydd Cymreig ar fryniau gogledd Cymry, yn Eryri yn bennaf, gyda tua eu hanner i'w cael ar y Carneddau.

Mae'r merlyn mynydd yn chwarae rhan bwysig mewn cadwriaeth. Nid yw'n bwyta grug a blodau gwyllt, fel mae defaid yn wneud, ac felly mae'n cadw cynefin adar gwyllt.

Map yn dangos yr amrywiaeth o dermau i ddisgrifio caseg sydd ag ysfa i genhedlu.

Gofyn march / stalwyn ac ymadroddion eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir cryn amrywiaeth yn yr eirfa a ddefnyddir i ddisgrifio ysfa caseg pan fo hi mewn gwres ag angen stalwyn. Yng Ngogledd Cymru dywedir ei bod yn 'gofyn stalwyn' neu'n 'marchio' ('marchu' mewn rhai ardaloedd). Ym Nyffryn tanat, Powys, dywedir ei bod 'yn marchu' ac 'ym Mrycheiniog, mae'r gaseg 'yn marcha'. Yng ngogledd Maldwyn, defnyddir 'gofyn stalwyn/march/ceffyl', ac mae hyn yn dangos fod cryn amrywiaeth oddi fewn i un ardal fechan.

Yn yr hen Sir Fflint, dywedir fod y gaseg 'eisiau stalwyn', yr un patrwm a chyda tharw - 'eisiau tarw' ddywedir hefyd. Ceir 'mofyn march' ym Morgannwg a de-orllewin Brycheiniog, ac maent hwythau'n cadw i'r un patrwm ac a wnant gyda tharw - 'mofyn tarw' a ddywedant. Ond ceir gair anghyffredin yn ardal Aberangell, Llanbrynmair a Chaerwys ym Maldwyn: 'yn wynedd', a fersiwn o'r term hwn a ddefnyddir yn ne Ceredigion a de Penfro: 'yn wynen' neu 'yn wyner'. Mewn un lle yng Nghwm Llynfell (Gorllewin Morgannwg) ceir amrywiad arall: 'yn wynad'.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. International Commission on Zoological Nomenclature, 2003,Usage of 17 specific names based on wild species which are pre-dated by or contemporary with those based on domestic animals (Lepidoptera, Osteichthyes, Mammalia): conserved. [1]
  2. Wright, B. (March 29, 1999). "The Age of a Horse". Ministry of Agriculture, Food and Rural Affairs. Government of Ontario. http://www.omafra.gov.on.ca/english/livestock/horses/facts/info_age.htm. Adalwyd 2009-10-21.
  3. Ensminger, tud. 46–50
  4. Ryder, Erin. "World's Oldest Living Pony Dies at 56". The Horse. http://www.thehorse.com/viewarticle.aspx?ID=9708. Adalwyd 2007-05-31.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am ceffyl
yn Wiciadur.