Aberangell

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Aberangell
Cottages in Aberangell - geograph.org.uk - 1431285.jpg
Math pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52°40'N, 3°43'W Edit this on Wikidata
Cod OS SH845098 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Pentref ger priffordd yr A470 rhwng Mallwyd a Chemaes yn ne Gwynedd yw Aberangell ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif lle mae Afon Angell yn llifo i mewn i Afon Dyfi. Cyfeirnod OS: SH 84612 10067.

Ar un adeg roedd gan y pentref orsaf ar Reilffordd Mawddwy. Roedd y diwydiant llechi yn bwysig yn yr ardal, ac yr oedd Tramffordd Hendre Ddu yn dod â llechi o Chwarel Hendre Ddu i'r orsaf yma i'w llwytho.

Roedd poblogaeth o 935 yn 1841, disgynodd y boblogaeth rhwng 1881 ac 1891 o 946 i 729.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Dyfi Valley Demographics.