Morfa Bychan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Morfa Bychan
Sabina - geograph.org.uk - 638393.jpg
Math pentref Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.9144°N 4.1643°W Edit this on Wikidata
Cod OS SH544374 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Pentref arfordirol yng Ngwynedd yw Morfa Bychan ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif i'r de-orllewin o dref Porthmadog ac i'r dwyrain o Gricieth, ar ochr ogleddol aber Afon Glaslyn lle mae'n cyrraedd Bae Tremadog.

Mae'n lle poblogaidd iawn gan dwristiaid yn yr haf, yn enwedig oherwydd traeth Morfa Bychan, Black Rock Sands yn Saesneg, sy'n ymestyn o'r pentref i gyfeiriad Cricieth. Caniateir gyrru ceir ar y traeth yma. Ceir nifer o siopau a thafarnau yma ynghyd â sawl gwersyll carafanau.

Gerllaw mae gwarchodfa natur Morfa Bychan, yn perthyn i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, ac heb fod ymhell o'r pentref mae'r Garreg Wen, cartref y cerddor Dafydd y Garreg Wen. Y tu ôl i'r pentref ceir bryn Moel y Gest.

Morfa Bychan.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014