Bronaber

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bronaber

Pentref bychan yn Ngwynedd yw Bronaber. Saif ar y briffordd A470, ychydig i'r de o bentref Trawsfynydd; Cyfeirnod OS: SH 71076 31631. Llifa afon Eden ychydig i'r gorllewin iddo, ac mae hen ffordd Rufeinig Sarn Helen fymryn i'r dwyrain.

Roedd gwersyll milwrol yma o tua 1906 ymlaen, a defnyddir yr ardal ar gyfer ymarfer tanio. Caewyd ef fel gwersyll milwrol yn 1957-8, ond yna fe'i defnyddiwyd ar gyfer gweithwyr oedd yn adeiladu Atomfa Trawsfynydd. Mae rhan o'r hen wersyll milwrol yn awr yn bentref gwyliau. Gerllaw mae gwesty Rhiw Goch, lle dywedir i'r merthyr Catholig Sant John Roberts gael ei eni.

Cysylltiad allanol[golygu | golygu cod y dudalen]