Pant Glas

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Pant Glas

Pentref ydy Pant Glas ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (weithiau Pantglas) sy'n gorwedd ar yr hen A487 yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd. Llifa Afon Dwyfach heibio i'r pentref.

Trafnidiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar un adeg roedd gorsaf reilffordd yma, ar y lein o Gaernarfon i Afon-wen; fe'i chaewyd ym mis Rhagfyr 1964.

Nes adeiladu ffordd osgoi Llanllyfni, roedd llawer iawn o draffic yn teithio tryw'r pentref ac roedd cyfymder ucha o 50 milltir yr awr. Gostyngwyd hyn i 40 milltir yr awr yn 2005 gan wneud y pentref yn lle llawer mwy pleserus i fyw.[1]

Mae llwybr beic Lôn Eifion, rhan o Lôn Las Cymru, hefyd yn pasio drwy'r pentref, yn dilyn llwybr hen reilffordd Caernarfon i Afon Wen. Mae'r llwybr yn rhan o rwydwaith cenedlaethol Sustrans erbyn hyn.

Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Arferai rhai o blant yr ardal pentref fynychu Ysgol Ynys-yr-arch ym Mwlch derwin nes i honno gau,; erbyn hyn, mynycha rhai o blant y pentref Ysgol Gynradd Garndolbenmaen gerllaw cyn symyd ymlaen i ysgolion uwchradd Eifionydd neu Ddyffryn Nantlle.

Pobl o Bantglas[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Bryn Terfel. Ganwyd ef ym Mhant Glas a magwyd ef ar fferm Nant Cyll Uchaf. Cafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Dyffryn Nantlle.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato