Lôn Eifion
| |
Daearyddiaeth | |
---|---|
Sir |
Gwynedd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.145°N 4.269°W ![]() |
Mae Lôn Eifion yn rhan o Lôn Las Cymru, llwybr cenedlaethol Seiclo Cymru.
Lôn Eifion yw'r enw am y rhan o'r llwybr sy'n rhedeg am 20 cilometr o Gaernarfon i Fryncir ar hyd hen wely traciau rheilffordd Caernarfon i Afon Wen. Roedd y linell yn perthyn i Rheilffordd Sir Gaernarfon (yn ddiweddarch LNWR a London, Midland and Scottish Railway), ac ymunodd â Rheilffordd y Cambrian yn Afon Wen. Yn rhedeg ar hyd ymyl y llwyr am bellter byr hefyd mae hen wely traciau tramffordd Nantlle, a oedd yn cael ei ddefnyddio gan geffylau'n tynnu tramiau llawn llechi o chwareli Dyffryn Nantlle i'r porth yng Nghaernarfon lle caent eu hallforio. Am y rhanfwyaf o 'r 5 cilometr cyntaf o Gaernarfon, mae'r llwybr hefyd yn rhedeg wrth ochr Rheilffordd Ucheldir Cymru.