Dyffryn Nantlle

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dyffryn Nantlle
Snowdon from Nantlle Lakes (1130923).jpg
Math Dyffryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.025°N 4.2833°W Edit this on Wikidata
Edrych i lawr Dyffryn Nantlle o gopa'r Wyddfa. Llyn Nantlle yn y canol.

Mae Dyffryn Nantlle yn ardal yng Ngwynedd sy'n ymestyn o Ryd-Ddu wrth droed Yr Wyddfa tua'r gogledd hyd y môr. Llifa Afon Drws-y-coed trwy ran uchaf y dyffryn ac i mewn i Lyn Nantlle Uchaf lle mae Afon Llyfni yn tarddu ac yn llifo ar hyd y dyffryn tua'r môr. A dilyn dalgylch yr afon, gellid ystyried bod Dyffryn Nantlle yn dechrau ychydig uwchben Drws-y-coed, ond mae pentref Rhyd-Ddu yn cael ei gynnwys yn Nyffryn Nantlle fel rheol, er ei fod ar Afon Gwyrfai. Ar ochr ddeheuol y dyffryn mae Crib Nantlle, cyfres o fynyddoedd o'r Garn ger Rhyd-Ddu hyd Mynydd Graig Goch uwchben Llyn Cwm Dulyn. Ar ochr ogleddol y dyffryn mae Mynydd Mawr a Moel Tryfan. Mae Dyffryn Nantlle yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg, gyda tua 80% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.

Cyfeirir at nifer o leoedd yn Nyffryn Nantlle ym mhedwaredd gainc y Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy. Dywedir fod y gair "Nantlle" ei hun yn dod o "Nant Lleu".

Bu chwareli llechi yn yr ardal yn gynnar, ac yn y 18g Chwarel y Cilgwyn oedd y fwyaf yng Nghymru. Tyfodd y boblogaeth yn gyflym gyda datblygiad y diwydiant llechi yn y 19g, ac yr oedd cryn nifer o chwareli yn y dyffryn. Chwarel Dorothea a Chwarel Penyrorsedd oedd y ddwy fwyaf. Erbyn diwedd y 1860au yr oedd Dyffryn Nantlle yn cynhyrchu 40,000 tunnell o lechi y flwyddyn. Roedd Rheilffordd Nantlle, oedd â'r wagenni yn cael eu tynnu gan geffylau, yn cario llechi o'r chwareli o 1865 hyd 1963.

Yn dilyn machlud y diwydiant llechi, daeth diweithdra yn broblem ddifrifol yn y dyffryn. Gwnaed ymdrech i ddenu diwydiannau ysgafn i'r ardal, er enghraifft i Stad Ddiwydiannol Penygroes. Yn 1991 sefydlwyd "Antur Nantlle Cyf" fel prosiect cymunedol i wella bywyd yn y dyffryn.

Trefi a phentrefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Prif ganolfan y dyffryn yw Penygroes. Ystyrir fod y pentrefi canlynol yn rhan o Ddyffryn Nantlle:

Enwogion o'r Dyffryn[golygu | golygu cod y dudalen]

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

Darlithoedd Blynyddol Llyfrgell Pen-y-groes (1967- ), yn disgrifio hanes a diwylliant y fro:

  • Mathonwy Hughes, Bywyd yr Ucheldir (Caernarfon, 1973)
  • Gwilym R. Jones, "Yn Nhal-y-sarn ers talwm..." (Caernarfon, 1968)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]