Chwarel y Cilgwyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Chwarel y Cilgwyn, yr hynaf yng Nghymru mae'n debyg. Mae'r rhan fwyaf o'r chwarel yn domen sbwriel bellach. Gan fod y chwarel ar dir y Goron, nid oedd y chwarelwyr yn gorfod talu dim i feistr tir.

Roedd Chwarel y Cilgwyn yn chwarel yn Nyffryn Nantlle, ar lethrau Mynydd Cilgwyn. Credir mai'r chwarel hon yw'r hynaf yng Nghymru, yn dyddio o'r 12g. Roedd yn un o'r chwareli pwysicaf yn ystod cyfnod dechrau tŵf diwydiant llechi Cymru yn y 18g.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Hyd ddiwedd y 18g, yr oedd y llechi’n dod o chwareli bychain a weithid gan bartneriaethau o ddynion lleol, nad oedd ganddynt y cyfalaf i weithio ar raddfa fwy. Fel rheol byddent yn talu rhent i’r tirfeddiannwr neu’n talu yn ôl nifer y llechi, ond nid oedd chwarelwyr Cilgwyn yn gorfod talu i neb. Mae llythyr gan asiant Ystad y Penrhyn, John Paynter, yn 1738 yn cwyno fod cystadleuaeth o’r Cilgwyn yn effeithio ar werthiant llechi’r Penrhyn. Gellid cynhyrchu llechi’r Cilgwyn yn rhatach a’u gwerthu am bris uwch. Yn y 1760au dechreuodd Methusalem Jones, gynt yn chwarelwr yn y Cilgwyn, weithio chwarel Diffwys ym Mlaenau Ffestiniog, a bu gan chwarelwyr o'r Cilgwyn ran amlwg yn natblygiad y diwydiant yn ardal Ffestiniog yn y cyfnod hwn.

Ffurfiwyd Cwmni Llechi Cilgwyn a Chefndu gan bedwar o bobl leol i weithio Chwarel y Cilgwyn yn 1800. Yn ystod y chwe blynedd yn diweddu 31 Ionawr 1812, gwnaeth y chwarel elw o £2,861. Caewyd y chwarel yn 1914, er iddi ail-agor yn ddiweddarach. Erbyn 1923 roedd gan y chwarel gysylltiad i Dramffordd Nantlle ac i Reilffordd Eryri.

Y chwarel heddiw[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi i'r chwarel gau yn 1956 cafodd ei throi yn domen sbwriel, ac mae'r rhan fwyaf o'r hen weithfeydd o'r golwg erbyn hyn.