Rheilffordd Nantlle

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rheilffordd Nantlle
Nantlle Tramway wagon.jpg
Math railway company Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol 1828 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1828 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Cymru Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Wagen lechi o Reilffordd Nantlle, yn awr yn Amgueddfa Llechi Cymru, Llanberis

Roedd Rheilffordd Nantlle yn reilffordd gul (3 troedfedd a chwech modfedd) a adeiladwyd i gario llechi o nifer o'r chwareli llechi yn Nyffryn Nantlle i'r porthladd yng Nghaernarfon.

Pasiwyd deddf yn y Senedd i awdurdodi adeiladu'r rheilffordd yn 1825, a Robert Stephenson (yr hynaf), brawd George Stephenson, oedd yn gyfrifol am oruchwylio peth o'r gwaith, wedi i gynlluniau'r peiriannydd camlesi Roger Hopkins brofi'n anfoddhaol. Agorodd yn 1828, gyda wagenni yn cael eu tynnu gan geffylau. Er mai ar gyfer cario llechi y bwriadwyd y lein, bu hefyd ar brydiau yn cario teithwyr rhwng Penygroes a Chaernarfon.

Daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffordd Sir Gaernarfon yn 1865 ac yn ddiweddarach Rheilffordd Llundain a'r Gogledd-orllewin (LNER). Ail adeiladwyd y trac rhwng Caernarfon a Phenygroes yn 1867 fel rheilffordd o'r lled safonol, i ganiatau rhedeg trenau i Afon Wen. Daeth y darn rhwng Talysarn a Phenygroes yn reilffordd o led safonol yn 1872. Roedd y rheilffordd oedd yn cysylltu Talysarn a'r chwareli yn parhau fel tramffordd, gyda cheffylau yn tynnu'r wageni hyd 1963.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • J.I.C.Boyd; Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire Volume 1 The West (The Oakwood Press)