Caernarfon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Caernarfon
Afon Seiont in Caernarfon (7492).jpg
Math Tref, Cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth 9,615 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.14°N 4.27°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000056 Edit this on Wikidata
Cod OS SH485625 Edit this on Wikidata
Cod post LL55 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Sian Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/au Hywel Williams (Plaid Cymru)
Gwefan www.caernarfononline.co.uk Golygu ar Wicidata
Castell Caernarfon o'r gorllewin
Ffotograff 'ffotocrôm o tua 1890-1900

Mae Caernarfon yn dref yng Ngwynedd, yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae'n enwog yn bennaf oherwydd Castell Caernarfon, sy'n gastell mawr o feini a godwyd gan Edward I o Loegr. Daw enw'r dref o gaer gynharach, sef Segontium, y gaer Rufeinig sydd ar dir uwch ar gyrion y dref. Y gaer hon a roddodd yr enw "Caer Seiont yn Arfon" neu "Caer Saint yn Arfon", a ddaeth yn ddiweddarach yn Gaernarfon. Mae gan y dref boblogaeth o 9,611 gyda 81.6% yn siaradwyr Cymraeg (97.7% yn yr oedran 10-14), yn ôl Cyfrifiad 2001. "Cofi" y gelwir rhywun a aned yn y dre.

Mae Caerdydd 198.7 km i ffwrdd o Gaernarfon ac mae Llundain yn 335.9 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 12.7 km i ffwrdd.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Caernarfon yn safle hanesyddol sydd wedi tyfu dros y canrifoedd i fod yn un o brif drefi Gwynedd a gogledd-orllewin Cymru. Darganfuwyd olion o waith amddiffynnol cyn-Rufeinig ar safle Twthill, ger y castell presennol. Roedd yn well gan y Rhufeiniaid ddewis safle fymryn i'r de o'r dref i godi eu caer newydd Segontium yn OC 75. O'r safle hwnnw roeddent yn medru rheoli'r mynediad i benrhyn Llŷn a chadw golwg ar Afon Menai ac Eryri. Mae eglwys Llanbeblig, ger y gaer, yn perthyn i ddiwedd y cyfnod Rhufeinig. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu gan Peblig, un o feibion Macsen Wledig, a gysylltir ag Elen Luyddog a Chaernarfon yn y chwedl Cymraeg Canol Breuddwyd Macsen Wledig. Yng nghainc gyntaf Pedair Cainc y Mabinogi cysylltir y dref â Branwen ferch Llŷr.

Ychydig a wyddys am hanes y dref yn y canrifoedd ar ôl i'r Rhufeiniaid ymadael. Cododd yr arglwydd Normanaidd Hugh d'Avranches, Iarll Caer, gastell mwnt a beili yng Nghaernarfon tua 1090 ar safle'r castell presennol. Ond fe'i cipiwyd gan y Cymry a bu Caernarfon yn nwylo tywysogion Gwynedd hyd y goresgyniad Seisnig yn 1283. Credir fod gan y tywysogion un o'u llysoedd yno. Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaernarfon yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Y castell o gyfeiriad y dre
Cwch yn harbwr
Yr harbwr
Y castell

Codwyd Castell Caernarfon gan Edward I o Loegr ar ôl iddo feddiannu Gwynedd. Fe'i cynlluniwyd ar batrwm muriau dinas Caergystennin a thyfodd bwrdeistref Seisnig yn ei chysgod. Gwnaethpwyd difrod helaeth i'r castell yn ystod y Gwrthryfel Cymreig (1294-1295) dan arweiniad Madog ap Llywelyn. Ymladdwyd Brwydr Twthil ger y dref ym 1401 rhwng llu Owain Glyndŵr ac amddiffynwyr y dref, ac ymosododd rhyfelwyr Glyn Dŵr ar y dref a'r castell yn 1403 a 1404, ond heb lwyddo i'w cipio.

Ar ddechrau'r 19g roedd Caernarfon yn dref Gymreig fywiog a dyfodd yn gyflym fel porthladd ar gyfer allforio llechi. Codwyd cei newydd ar lan Afon Seiont ac agorwyd Rheilffordd Nantlle i gludo llechi o chwareli Dyffryn Nantlle gan Robert a George Stephenson yn 1827-28.

Erbyn heddiw mae Caernarfon yn dref farchnad brysur gydag un o'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y wlad.

Cysylltiadau cludiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gwasanaeth bws rheolaidd (bob 10 munud yn ystod y dydd) yn cysylltu'r dref gyda'r Felinheli, Bangor ac ymlaen i Landudno. Mae gwasanaethau rheolaidd hefyd yn cysylltu Caernarfon gyda Porthmadog, Pwllheli a Dyffryn Nantlle sy'n golygu bod tua 4 bws yr awr yn cysylltu Bontnewydd gyda'r dref. Mae gwasaneth bws bod hanner awr yn mynd i Fethel, Llanrug a Llanberis.

Sefydliadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Diwydiant Teledu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ers sefydlu S4C yn yr 1980au cynnar, mae'r diwydiant teledu wedi dod a gwaith i dref y Cofis. Er bod dylanwad y diwydiant yn y dref wedi dirywio ers yr 1990au cynnar, mae nifer o gwmniau teledu yn parhau i fod â swyddfeydd yn y dref. Mae pencadlysoedd y cwmnïau canlynol yng Nghaernarfon:

Mae gan y cwmnïau hyn hefyd swyddfeydd yn y dref:

Mae'r dref hefyd yn gartref i safle stiwdio cwmni Barcud Derwen lle mae rhaglen Uned 5 (Antena Dime Goch) a rhaglen bêl-droed Sgorio yn cael eu darlledu unwaith yr wythnos. Rhaglenni eraill sy'n cael eu cynhyrchu yn gyson yn y dref yw Y Sioe Gelf (Cwmni Da), CNEX (Griffilms/Cwmni Da) a Sgorio Cymru (Rondo).

Eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar lan Doc Fictoria saif adeilad ar batrwm hen waarws (ond a godwyd fel adeilad pwrpasol ym 1981) sydd yn bencadlys Gwasanaeth Archifau Gwynedd.

Pobl o Gaernarfon[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr olygfa o ogledd-gorllewin, Castell Caernarfon

Clybiau Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae C.P.D. Tref Caernarfon[1] yn chwarae yn y Gynghrair Undebol. Mae dau glwb lleol arall yn y dref, sef Caernarfon Wanderers sy'n chwarae yn Nghyngrair Gwynedd a Caernarfon Borough[2] sy'n chwarae yn adran gyntaf Cynghrair Caernarfon a'r Cylch. Mae Tîm Pêl-droed Merched Caernarfon yn chwarae yng Uwchgynghrair Merched Cymru a sefydlwyd yn nhymor 2009/10.

Cartref C.P.D. Tref Caernarfon a'r tîm merched yw'r Ofal. Mae Caernarfon Borough yn chwarae ar Ffordd yr Aber, tra bod Caernarfon Wanderers yn defnyddio Cae Top, cartref Bryncoch Utd ar y gyfres C'mon Midffild!.

Mae Clwb Rygbi Caernarfon[3] yn chwarae yn Adran 4 (Gogledd Cymru) Cynghrair SWALEC, ac mae ail-dîm y clwb yn chwarae yng Nghyngrair Gwynedd.

Cartref y clwb rygbi yw'r Morfa, a'u clwb cymdeithasol oedd 'Clwb y Bont' ar gyfres Tipyn o Stad.

Clybiau Chwaraeon Eraill:

  • Clwb Hwylio Caernarfon
  • Clwb Golff Caernarfon
  • Clwb Nofio Caernarfon

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Caernarfon (pob oed) (9,615)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Caernarfon) (7,879)
  
85.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Caernarfon) (8252)
  
85.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Caernarfon) (1,686)
  
39.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon ym 1886, 1894, 1906, 1921, 1935, 1940, 1943, 1959 a 1979. Am wybodaeth bellach gweler:

Gefeilldref[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. [1]
  2. caernarfonborofc.co.uk
  3. clwbrygbicaernarfon.co.uk
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: