Neidio i'r cynnwys

Dolbenmaen

Oddi ar Wicipedia
Dolbenmaen
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,267, 1,300, 1,343 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.968°N 4.228°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000060 Edit this on Wikidata
Cod OSSH506430 Edit this on Wikidata
Cod postLL51 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Pentref bychan a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Dolbenmaen[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Arferai fod yn blwyf, rhan o hen gwmwd Eifionydd, Teyrnas Gwynedd. Ceir hen domen, neu fwnt yn y pentref, gerllaw Eglwys y Santes Fair, Dolbenmaen sy'n dyddio i'r 15g.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[3]

Mwnt Dolbenmaen
Mwnt Dolbenmaen

Yn yr Oesoedd Canol codwyd castell yn Nolbenmaen ger y rhyd ar Afon Dwyfor. Ychydig a wyddys am ei hanes. Mae'n bosibl iddo gael ei godi yn wreiddiol gan y Normaniaid, yn y cyfnod byr pan feddiannwyd rhannau o Wynedd gan yr iarll Hugh d'Avranches ('Huw Flaidd') o Gaer ar ddiwedd yr 11g a dechrau'r ganrif ganlynol, neu gan dywysogion Gwynedd. Erbyn yr 12g roedd yn ganolfan maerdref cwmwd Eifionydd ac yn un o lysoedd brenhinol tywysogion Gwynedd. Yn 1230 symudodd Llywelyn Fawr y llys lleol oddi yno i gastell Cricieth. Dim ond y mwnt sydd i'w weld ar y safle heddiw, ger eglwys Dolbenmaen.[4]

Ystumcegid

Codwyd plasty Ystumcegid yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Saif ar fryncyn ger Dolbenmaen. Mae'n ffermdy heddiw ond yn y gorffennol bu gan deulu Ystumcegid ran amlwg ym mywyd y fro a chroesawid sawl bardd ar eu haelwyd.

Eglwys y Santes Fair, Dolbenmaen.
Bwthyn yn Nolbenmaen.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Dolbenmaen (pob oed) (1,343)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Dolbenmaen) (883)
  
67.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Dolbenmaen) (876)
  
65.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Dolbenmaen) (209)
  
37%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 22 Chwefror 2023
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. Frances Lynch, A Guide to Ancient and Historical Wales: Gwynedd (HMSO, Llundain, 1995).
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]