Rhoslan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Rhoslan
Cromlech Rhoslan from the west - geograph.org.uk - 1762928.jpg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.944416°N 4.261106°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Capel y Beirdd, Rhoslan

Pentref bychan yn Eifionydd, Gwynedd yw Rhoslan ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar y ffordd B4411, rhwng Bryncir a thref Cricieth. Llifa Afon Dwyfor i'r dwyrain o'r pentref, ac Afon Dwyfach i'r gorllewin. Cyfeiria R. Williams Parry ar hyn yn ei linellau "Hen, hen yw murmur llawr man / Sydd rhwng dwy afon yn Rhoslan".

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]

Cromlech Rhoslan o'r gorllewin

Hanes a hynafiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae cromlech ychydig i'r dwyrain o'r pentref, ac mae'r Lôn Goed gerllaw.

Yma hefyd mae Capel y Beirdd, a sefydlwyd yn 1822[3] ac a gysylltir â dau o feirdd clasurol Eifionydd yn hanner cyntaf y 19g, sef Robert ap Gwilym Ddu o'r Betws Fawr yn Llanystumdwy a'i ddisgybl barddol Dewi Wyn o Eifion, awdur y gyfrol Blodau Arfon.

Pobl o Roslan[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Capel y Beirdd Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. ar wefan Coflein.