Llanwnda, Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am y pentref yn Sir Benfro, gweler Llanwnda (Sir Benfro).

Pentref, cymuned, a phlwyf yn Arfon, Gwynedd, yw Llanwnda. Gorwedd ar yr A499 tua 3 milltir i'r de o dref Caernarfon. Llifa Afon Carrog drwy'r gymuned.

Hanes a hynafiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r eglwys, a gysegrir i Sant Gwyndaf (Gwnda), yn sefydliad hynafol, ond mae'r rhan fwyaf o'r adeilad presennol yn dyddio i 1847 pan gafodd yr eglwys ei hailadeiladu yn gyfangwbl. Yn ôl y disgrifiadau o'r hen eglwys, roedd hi'n dyddio i'r 13g ac ar ffurf croes. Dim ond darnau o waelod muriau'r hen eglwys sy'n aros.[1]

Mae henebion y plwyf yn cynnwys caer hynafol Dinas y Pryf, bryngaer Hen Gastell a chaer dybiedig Dinas Dinoethwy.

Hefyd yn y plwyf ceir Rhedynog Felin, safle gwreiddiol Abaty Aberconwy. Daeth mynachod yno o Abaty Ystrad Fflur ar 24 Gorffennaf, 1186, ond symudasant i Aberconwy yn fuan wedyn. Arosodd y tir yn nwylo'r abaty Sistersiaidd hyd at gyfnod diddymu'r mynachlogydd.[1]

Pobl o Lanwnda[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanwnda, Gwynedd (pob oed) (1,994)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanwnda, Gwynedd) (1,556)
  
81.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanwnda, Gwynedd) (1577)
  
79.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanwnda, Gwynedd) (277)
  
33.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Canolfan Bro Llanwnda[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Ganolfan Fro

Mae yma ganolfan fro a agorwyd ym mis Medi 2006 i wasanaethu nifer o gymunedau gwledig Cymreig fel Bethesda Bach, Chatham, Dinas, Llanfaglan, Llandwrog, Llanwnda, Rhos Isa, Tai Lon a Saron, ac eraill. Mae'r ganolfan y drws nesaf i Ysgol Gynradd Felinwnda.

Ers ei hagor, mae yma ddwy gymdeithas wedi eu ffurfio o'r newydd, sef Clwb Garddio Felinwdna a Chymdeithas Hanes Tair Llan. Mae Cylch Meithrin Llanwnda yn cyfarfod yma, a Merched y Wawr Dinas. Mae'r ysgol gynrad leol hefyd yn defnyddio'r ganolfan, a cheir nifer o weithgareddau eraill ynddi, na fuasent yn digwydd heb y Ganolfan.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Harold Hughes a H. L. North, The Old Chuches of Snowdonia (Bangor, 1924; arg. newydd, 1984).
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]